Cynllun eFentora
Beth yw eFentora?
Cyfle i fyfyrwyr cyfredol Prifysgol Aberystwyth, alumni a phobl broffesiynol roi a derbyn cyngor trwy drefniant mentora ar lein.
Gall hyn olygu e-bost untro neu ryngweithio dros gyfnod wrth i fyfyrwyr a graddedigion ar ddechrau eu gyrfa gynllunio a symud trwy eu dewisiadau o yrfa. Gall mentoriaid gynnig:
- cyngor trwy e-bost
- adborth ar CV a ffurflenni cais
- golwg werthfawr ar yrfa benodol
- ymweliadau â gweithle mentor
- cyfleoedd ar gyfer cysgodi yn y gwaith/profiad gwaith
Nodir mae'r ochr Gymraeg o'r platfform eFentora yn cael eu diweddaru a felly mi fydd yna rhai newidiadau yn parhau i digwydd am y wythnosau nesaf i sut mae'r platfform yn edrych.
Enghreifftiau
Thomas Cottrell, ADGD, Uwch Gynghorydd Cyngor Sir Gorllewin Sussex
Ar ôl graddio yn 2014 ymunodd Thomas â chynllun hyfforddi graddedigion gyda Chyngor Sir Gorllewin Sussex, ac mae bellach yn uwch gynghorwr mewn seicoleg ac effeithiolrwydd sefydliadol.
"Byddwn yn fwy na pharod i roi cyngor ar weithio yn y sector cyhoeddus, sut y dechreuais weithio ym maes adnoddau dynol a gallaf gynnig cymorth i chi drwy gydol y cyfnodau ymgeisio ar gyfer swyddi. Ar ôl mynd drwyddi fy hun Rwy'n gwybod pa mor frawychus a dryslyd y gall fod. Mae'r sgiliau lluosog a ddysgais yn ystod fy amser ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cael effaith fawr ar fy ngallu i wneud fy swydd o ddydd i ddydd, sgiliau fel dadansoddi data a'r gallu i roi cyflwyniadau neu hwyluso gweithdai."
Gwneud y mwyaf o eFentora
Efallai eich bod yn fyfyriwr cyfredol ym Mhrifysgol Aberystwyth, ar ddechrau eich gyrfa neu eisoes wedi cael tipyn o brofiad ers graddio – gall eFentora gynnig nifer o gyfleoedd i chi, beth bynnag fo’ch sefyllfa.
Gall cynllun efentora Aberystwyth helpu myfyrwyr a graddedigion i greu rhwydweithiau ac ehangu eu cyfleoedd. Hoffech chi gael cyswllt defnyddiol mewn diwydiant penodol? Gallwch chwilio drwy broffiliau’r mentoriaid yn ôl eu proffesiwn, diddordebau a lleoliad, gan eich galluogi i greu rhwydwaith cefnogol yn gyflym ac yn hwylus.
Sut bynnag yr ydych yn perthyn i gymuned Aberystwyth – myfyriwr cyfredol, graddedig profiadol neu berson proffesiynol neu entrepreneur – gall fod nifer o fanteision i berthynas fentora. Os ydych yn chwilio am arweiniad, yn wynebu adeg heriol yn eich gyrfa, yn dymuno ychwanegu sgìl newydd at eich CV neu yn chwilio am gyfle i rannu eich profiad, bydd nifer o fanteision cadarnhaol i’r gwasanaeth unigryw hwn ar gyfer alumni a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.
Mentoreion (myfyrwyr Aber)
- Creu rhwydwaith i’ch helpu i gyrraedd y gris cyntaf ar yr ysgol yrfa
- Ehangu’ch gorwelion gyrfa a chael golwg ar yr hyn y mae graddedigion profiadol Aber yn ei wneud
- Sicrhau cyngor, cefnogaeth a dealltwriaeth rhywun a fu yn eich sefyllfa chi ar yr un adeg
- A’r cyfan trwy ddiogelwch eich gliniadur/ffôn symudol
Wrth ymuno â chynllun eFentora Aberystwyth byddwch yn sicrhau profiadau a chysylltiadau all helpu i droi eich syniadau a’ch cynlluniau o ran gyrfa yn realiti. Bydd eich mentor yn rhannu cyngor a phrofiadau personol, gan gynnig cysylltiad personol â’r hyn y gallwch ei ddisgwyl o fywyd ar ôl Aber. Byddwch yn ennill profiad, yn datblygu eich hyder, yn meithrin cysylltiadau ac yn canfod safbwynt hollol newydd ar y posibiliadau fydd yno i chi ar ôl graddio.
Manteision i’r mentoreion
- Cefnogaeth un-wrth-un gan unigolyn proffesiynol profiadol
- Cyfle i rwydweithio a meithrin cysylltiadau mewn diwydiant
- Cael cipolwg ar ddiwydiant neu yrfa o’ch dewis
- Cymorth wrth adnabod eich gallu a’ch cyfyngiadau eich hun mewn perthynas â’ch syniadau o ran gyrfa ac wrth amlygu meysydd i’w datblygu
- Datblygu sgiliau arbenigol
- Datblygu sgiliau cyflogadwyedd
- Cyngor ymarferol ar dechnegau a sgiliau chwilio-am-swydd
I gael rhagor o wybodaeth weler ein taflen Canllawiau Mentoreion neu cysylltwch gyrfaoedd@aber.ac.uk