CYF: 66-2501-2520803 - Cyfraddau Ymateb yr ABM

Dy sylw: Suggestion for SES/MEQ: it should become policy or lecturers should consider delaying or not perform an SES/MEQ when there are low attendance numbers than usual. I missed 2/3 of my SES this year which I admit is my fault but then I saw that the SES had only received 14/40 responses on one of the modules I am doing and 4/40 in another, this clearly won't be representative of students' experiences.

Ein hymateb:

Diolch am eich awgrym ynghylch amseriad yr arolygon ABM pan fo presenoldeb yn is na'r arfer. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn rhoi o’ch amser i rannu eich meddyliau, gan eu bod yn ein helpu i ddeall sut y gallwn wella ein prosesau i adlewyrchu profiadau'r myfyrwyr yn well.
Rydych yn codi pryder dilys am gyfraddau ymateb a sut y gallant effeithio ar gynrychioldeb canlyniadau'r arolwg. Gall cyfraddau ymateb isel, yn enwedig mewn achosion bresenoldeb is, gyfyngu ar werth yr adborth a gesglir. Fodd bynnag, efallai na fydd gohirio neu aildrefnu'r ABM bob amser yn ymarferol oherwydd yr angen i gadw at derfynau amser sefydliadol a sicrhau ein bod yn dadansoddi’r adborth yn brydlon.
Er mwyn ymdrin â heriau tebyg yn y gorffennol, gwnaethom roi hyblygrwydd i gydlynwyr modiwlau amserlennu’r arolygon ABM unrhyw bryd rhwng wythnosau 7 a 10 y semester. Bwriad hyn yw caniatáu pwynt ystyrlon yn yr amserlen addysgu, gan gydbwyso'r angen am adborth â sicrhau'r cyfranogiad ehangaf posibl. Gall cydlynydd y modiwl ailagor yr arolwg eto pe bai hyn o fewn ffenestr amser yr arolwg. I wneud hyn, gofynnwch i gydlynydd eich modiwl drefnu hyn.
Er y gall cyfraddau ymateb isel fod yn her, mae hefyd yn bwysig nodi y gall hyd yn oed ychydig bach o adborth dynnu sylw at feysydd allweddol i'w gwella. Hefyd, mae adborth cynnar yn caniatáu i gydlynwyr modiwlau wneud addasiadau a allai fod o fudd i'r garfan bresennol o fyfyrwyr.
Os ydych chi'n poeni am golli cyfleoedd i roi adborth, byddwn yn eich annog i rannu eich meddyliau'n uniongyrchol â'ch darlithwyr neu drwy gyfryngau adborth amgen megis y ffurflen Rho Wybod Nawr. Mae eich mewnbwn yn parhau i fod yn werthfawr hyd yn oed y tu allan i'r broses ffurfiol ABM.
Diolch eto am eich awgrymiadau defnyddiol. Os oes gennych chi ragor o syniadau neu bryderon, mae croeso i chi gysylltu â ni.