CYF: 66-2212-9131205 - Dylid cwblhau HGM gartref

Dy sylw: We have been asked to complete MEQ's in class for every module, and only given a few minutes to do them. We should be given these to do away from class, so we have more time, and those of us that can't think and type quickly actually have an opportunity to complete them. I have plenty of feedback that I'd like to give, but am not able to do so. 

Ein hymateb:

Diolch yn fawr am eich sylw Rho Wybod Nawr. 

Pan fo’n bosibl, hoffem gynnal yr HGM yn ystod amser dysgu. Mae hyn oherwydd bod ein data a'n profiad blaenorol wedi dangos, pan fo’r HGM yn cael eu cynnal y tu allan i'r ystafell ddarlithio - i fyfyrwyr gwblhau yn eu hamser eu hunain – mae ein cyfradd ymateb yn gostwng yn sylweddol. Bydd y cyfraddau ymateb isel hyn yn effeithio ar ein data o ran dibynadwyedd a dilysrwydd. Hefyd, nid yw ein system wedi'i osod ar hyn o bryd i ganiatáu cwblhau HGM yn y dosbarth ac yn allanol gan y gallai hyn o bosibl arwain at rai myfyrwyr yn cyflwyno nifer o ymatebion HGM. O ran peidio â chael digon o amser i gwblhau'r HGM, rydym yn gofyn i bob darlithydd ganiatáu 10-15 munud i gwblhau'r HGM, yn y gorffennol rydym wedi tybio bod hyn yn ddigon o amser i gwblhau'r HGM gan gynnwys yr adran atebion testun rhydd. Fodd bynnag, byddwn yn adolygu hyn cyn ein cyfnod HGM nesaf.