Archif Newyddion
Menywod ifanc Pacistan yn derbyn mopediau, diolch i brosiect Prifysgol Aberystwyth
Mae myfyrwyr benywaidd ifanc ym Mhacistan yn dysgu sut i yrru moped er mwyn rhoi mwy o annibyniaeth iddyn nhw a’u gwneud yn haws iddyn nhw gyrraedd eu man addysg, fel rhan o brosiect trafnidiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Darllen erthyglHwb i ymchwil trafnidiaeth gyda phartneriaeth rhwng Aberystwyth a De Korea
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu partneriaeth newydd gyda Phrifysgol Konkuk yn Ne Korea fel hwb mawr i’w hymchwil trafnidiaeth a symudedd.
Darllen erthyglPam fo'r hynod gyfoethog o bosibl yn cymryd mwy o risgiau na'r gweddill ohonom
Wrth ysgrifennu yn The Conversation, mae Nigel Holt, Athro mewn Seicoleg yn awgrymu os ydyn ni eisiau llai o ddamweiniau, efallai y dylen ni ystyried rheoliadau diogelwch a sut yr ydyn ni fel cymdeithas yn gwerthfawrogi cymryd risgiau, yn hytrach na beio unigolion.
Darllen erthyglArbenigydd blaenllaw ar astudiaethau gefeillio yn cyflwyno ymchwil yn Aberystwyth
Bydd arbenigydd blaenllaw ar y berthynas rhwng gefeilliaid yn siarad am ei hymchwil diweddaraf ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Mehefin 2023.
Darllen erthyglYmchwilwyr yn chwilio am wirfoddolwyr er mwyn taclo unigrwydd gwledig
Mae academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gofyn i bobl rannu eu profiadau fel rhan o ymchwil am sut y gellid goresgyn unigrwydd mewn ardaloedd gwledig.
Darllen erthyglSeicoleg yn y tri uchaf mewn pôl bodlonrwydd myfyrwyr y DU
Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o’r tri lle gorau yn y DU am fodlonrwydd myfyrwyr ymysg israddedigion Seicoleg yn eu blwyddyn olaf.
Dengys canlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) bod boddhad cyffredinol yn yr Adran Seicoleg yn 96%, gan ei gosod yn y tri uchaf o 109 o adrannau tebyg yn y DU.
Darllen erthyglCanlyniadau Eithriadol ACF ar gyfer Seicoleg
Tîm Seicoleg Aber yn gwybod beth sy’n gwneud myfyrwyr yn hapus: Adran Seicoleg 95% boddhad myfyrwyr
Darllen erthyglLansio Canolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig
Ddydd Iau 24 Mawrth lansiodd Prifysgol Aberystwyth y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig.
Darllen erthyglSaga Norén, ditectif ar gyfres The Bridge yn cyfeirio at waith academydd o Brifysgol Aberystwyth
Llyfr gan seicolegydd o Brifysgol Aberystwyth Dr Nigel Holt yw dewis lyfr y ditectif a seren y gyfres Nordic Noir The Bridge, sy’n cael ei dangos ar BBC4 ar hyn o bryd.
Ym Mhennod 6, a ddarlledwyd ar nos Sadwrn 5 Rhagfyr, pan ofynnwyd i Norén beth oedd yn ei ddarllen, atebodd, “Psychology – The Science of the Mind & Behaviour gan Nigel Holt”.
Darllen erthyglPrifysgol Haf 2015
Ydych chi erioed wedi meddwl pam nad yw rhai tystion a gwylwyr yn ymyrryd mewn argyfyngau?
Darllen erthyglGraddio 2015
Hoffai’r Adran longyfarch pawb a raddiodd eleni!
Darllen erthyglCyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth yn ymuno â phrosiect Ice Warrior
Mae Lee Edgington, sydd yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth, wedi ei ddewis i ymuno â thaith uchelgeisiol i fod y cyntaf i gyrraedd y Pegwn Gogleddol Anhygyrch.
Graddiodd Lee, sydd o’r Dre Newydd ym Mhowys, mewn Seicoleg ym mis Gorffennaf 2015 ac mae’n ymuno â phrosiect Ice Warrior, sy’n cael ei arwain gan y fforiwr profiadol Jim McNeill.
Darllen erthyglLlwybr Celf - Celfyddyd a Gwyddor Ansawdd Bywyd
Mae gan Geredigion ddwy elfen wrth ei chalon sy’n cynnal a meithrin ansawdd ein bywydau, sef cymuned gefnogol, a bro eithriadol o hardd.
Darllen erthyglDr Chris Beedie yn ynchwilio mewn seicoleg cyffuriau mewn chwaraeon athletaidd
Mae Dr Chris Beedie wedi ymchwilio yn ddiweddar mewn effeithiau seicolegol ar effeithioldeb cymryd cyffuriau sy'n cynyddu perfformiad. Mae e'n ystyried y goblygiadau posibl o'r canlyniadau hyn ar gyfer enw da'r chwaraeon athletaidd yn y dyfodol, yn sgîl y niwed iddyn nhw yn y degawdau diweddar drwy sgandalau cyffuriau. Gweler yr erthygl WalesOnline yma.
Darllen erthyglCYSTADLEUAETH FFOTOGRAFFIAETH DIWRNOD RHYNGWLADOL Y MENYWOD
Mae'r Tîm Athena Swan yn lansio cystadleuaeth ffotograffiaeth i ennill taleb Amazon gwerth £25 ar gyfer y ddelwedd fwyaf ysbrydoledig ac atgofus sy'n gysylltiedig â’r thema gyffredinol o 'Fenywod mewn Gwyddoniaeth, technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth (STEMM)'. Mae'r gystadleuaeth yn agored i holl staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Darllen erthyglDr Rachel Horsley newydd ei throsglwyddo i wasanaeth yn rhan-amser fel pencampwraig amrywioldeb ymchwilwyr Athena SWAN
Mae Dr Rachel Horsley newydd gael ei throsglwyddo i wasanaeth yn rhan-amser fel pencampwraig amrywioldeb ymchwilwyr Athen SWAN. Mae'r Siartr Athena SWAN, sef cyfundrefn y mae'r Adran Seicoleg yn aelod ohoni, yn ceisio hyrwyddo gyrfaoedd benywod mewn gwyddoniaeth, addysg a thechnoleg mewn addysg uwchradd.
Darllen erthyglBu Sarah Riley yn San Steffan am wythnos gyda Swyddfa Gydraddoldeb
Bu Sarah Riley yn San Steffan am wythnos gyda Swyddfa Gydraddoldeb y llywodraeth i gyfrannu at eu Hymgyrch dros Hyder Corff. Mae Delwedd Corff yn bwysig i'r llywodraeth gan ei bod yn cyfyngu dyheadau merched, sy'n effeithio'n wael ar eu cyfranogaeth economaidd.
Darllen erthyglCatherine O'Hanlon i hyrwyddo gweithdy yng nghynhadledd Bwrdd Iechyd Hywel Dda i Ddydd Ymdeimledd Awtistiaeth Byd-Eang
Mae Catherine O'Hanlon wedi cael ei gwahodd i hyrwyddo gweithdy yng nghynhadledd nesaf Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar amgyffrediad y synhwyrau mewn awtistiaeth, i ddigwydd ar gyfer Dydd Ymdeimledd Awtistiaeth Byd-Eang, Ddydd Mercher, 2 Ebrill, 2014.
Darllen erthyglClirio UCAS ac Addasu UCAS 2013
Ond sut mae dod o hyd i’r brifysgol orau drwy drefn Glirio UCAS eleni? Gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r brifysgol iawn a’r cwrs iawn i’w astudio. Os ydych yn chwilio am gyfleusterau rhagorol, amgylchedd unigryw, rhagolygon cyflogaeth da ar ôl graddio ac un o’r llefydd gorau i fyw yn y Deyrnas Unedig, yna astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth fydd un o’r penderfyniadau gorau a wnewch chi erioed.
Darllen erthyglMae'r BPS yn rhoi sêl ei bendith yn Aberystwyth
Mae'r Adran Seicoleg ym Phrifysgol Aberystwyth wedi dyfarnu iddi achrediad gwladol gan Gymdeithas Seicoleg Prydain, sef y gymdeithas dysgedig yn y DU wedi ei chydnabod yn rhyngwladol sy'n gyfrifol am sicrhau safonau ansawdd y y pwnc.
Darllen erthyglPum Aelod Newydd o Staff i Atgyfnerthu’r Adran o fis Medi
O fis Medi ymlaen, bydd yr adran Seicoleg yn cael hwb pan ychwanegir pedwar o aelodau newydd o staff academaidd ac un aelod o staff technegol.
Darllen erthyglAdran Seicoleg yn Dathlu ei Huwchraddedigion Cyntaf
Erbyn hyn gall Seicoleg ychwanegu ei myfyrwraig uwchraddedig gyntaf at ei rhestr o lwyddiannau – cymhwysodd Tamsin Williams am ddoethuriaeth mewn Seicoleg y mis Gorffennaf yma.
Darllen erthyglGwaith Myfyrwraig Seicoleg Aberystwyth mewn Gwerslyfr Newydd
Bydd gwaith Jade Norris i’w weld mewn gwerslyfr seicoleg gymdeithasol, sy’n torri tir addysgiadol newydd, gan Robbie Sutton a Karen Douglas o Brifysgol Caint.
Darllen erthyglPenawdau Eraill
Yr Adran Seicoleg, Adeilad P5, Prifysgol Aberystwyth, Campws Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UX
Ffôn: Yr Adran: +44 (0) 1970 628444 Swyddfa Derbyn: +44 (0)1970 622021 Ffacs: 01970 628781 Ebost: psychology@aber.ac.uk