Gwaith Myfyrwraig Seicoleg Aberystwyth mewn Gwerslyfr Newydd
10 Gorffennaf 2012
Petai nad oedd hi’n ddigon ei bod hi’n graddio ag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn seicoleg, bydd Jade Norris hefyd yn rhan o werslyfr seicoleg gymdeithasol newydd, sy’n torri tir addysgiadol newydd, gan Robbie Sutton a Karen Douglas o Brifysgol Caint. Daliwyd sylw’r awduron gan bosibiliadau cymhwyso gwaith ymchwil Jade i’r byd go iawn, a gofynasant iddi gyflwyno crynodeb o’i gwaith ymchwil hi iddynt er mwyn iddynt ei gynnwys yn eu gwerslyfr a gyhoeddir gan Palgrave ym mis Medi 2012. Deilliodd deunydd prosiect Jade o’i gwaith fel cwnstabl arbennig gwirfoddol yn heddlu Dyfed Powys, lle y cafodd gyfle i drafod â chadetiaid dan hyfforddiant sut roeddent yn deall prosesau grŵp drwy’r dulliau a ddefnyddir gan yr heddlu i reoli torfeydd.