Ymchwil sy'n creu effaith’

Ymchwil sy’n cael effaith yw ein Cenhadaeth

Ymchwil sydd wrth galon gwaith yr adran Seicoleg. Mae’r holl staff yn gwneud gwaith ymchwil ac yn ymwneud â phrosiectau sy’n cael effaith yn academaidd, yn gymdeithasol, ac ar iechyd. Mae’r arbenigeddau ymchwil hynny yn bwydo i’w gwaith addysgu.

 

Pwy sy’n gweithio gyda ni?

Mae’r unigolion a’r sefydliadau yr ydyn ni’n cydweithio â nhw yn amrywiol. Maent yn cynnwys academyddion ym Mhrydain, Brasil, Canada, Seland Newydd, llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ac asiantaethau anllywodraethol sy’n cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyngor Sir Ceredigion, Gwasanaeth Cyfiawnder ac Atal Troseddu Ieuenctid Ceredigion, ac elusennau. Noddir staff gan gynghorau ymchwil nodedig, yn cynnwys cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd, ESRC, EPSRC, a’r Academi Brydeinig.

 

Beth ydyn ni’n ei wneud?

Mae staff yn defnyddio amryw ddulliau, gan gynnwys dulliau arbrofol, holiaduron, dulliau ansoddol a dulliau cyfranogol. Mae llawer o’r gwaith a wnant yn rhyngddisgyblaethol, ac oherwydd hynny gallant gyfrannu at waith yn ymwneud â heriau cyfoes yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol. Mae’r gwaith ymchwil wedi’i glystyru o gwmpas y themâu canlynol.

 

Iaith a dysgu: mae’r clwstwr iaith yn astudio iaith, niwroieithyddiaeth gwybyddol, cymwysiadau iaith, materion yn gysylltiedig â datblygu iaith a dysgu iaith. Mae eu hymchwil hefyd yn edrych ar y gwahaniaethu rhwng ieithoedd ac effaith seicolegol bod yn ddwyieithog.

Arweinydd y Clwstwr: Victoria Wright

 

Iechyd a lles: mae’r clwstwr ymchwil hwn yn canolbwyntio ar nifer o agweddau’n gysylltiedig ag iechyd a lles. Mae ymchwilwyr y clwstwr yn nodi ffactorau a thechnegau sy’n gwella, yn hyrwyddo neu’n diogelu iechyd meddwl mewn poblogaethau clinigol ac anghlinigol; maent yn astudio’r ddeinameg rhwng rhanddeiliaid iechyd; ac yn astudio effaith polisïau iechyd ar y ffordd y mae pobl yn gwneud synnwyr o’u hiechyd a’r posibiliadau a ddaw yn sgil technolegau digidol. Mae’r grŵp hefyd yn gysylltiedig â’r Ganolfan Iechyd Gwledig.

Arweinydd y Clwstwr: Rachel Rahman

 

Seicoleg Esblygol a fforensig

Clwstwr yw hwn sy’n canolbwyntio ar faterion cymdeithasol a seicolegol cyfoes trwy fframweithiau seicometrig ac esblygol. Mae eu gwaith yn canolbwyntio ar nifer o faterion pwysig, gan gynnwys ymddygiad troseddol, ysmygu, gor-gasglu, a hiwmor.

Arweinydd y Clwstwr: Gil Greengross

 

Y Ganolfan Seicoleg Feirniadol (CC-Psy)

Mae gwaith y ganolfan yn canolbwyntio ar seicoleg mewn cymdeithas. Mae ganddynt ddiddordeb yn y ffordd y mae syniadau am yr hyn yw bod yn unigolyn da neu byw bywyd da yn cylchredeg ac yn creu sail i’r ffordd mae pobl yn dod i’w deall eu hunain a’u hymddygiad. Mae Seicoleg Feirniadol hefyd yn canolbwyntio ar y ffordd mae seicoleg yn cael ei defnyddio gan y llywodraeth a chan sefydliadau iechyd ac addysg, a goblygiadau hynny wrth i bobl dderbyn y syniadau i wneud synnwyr ohonynt eu hunain.

Arweinydd y Clwstwr: Martine Robson