Canlyniadau Eithriadol ACF ar gyfer Seicoleg
10 Awst 2016
Cafodd Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth sgôr ardderchog o 93% am foddhad cyffredinol yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2016.
Yn ogystal, cafodd cwrs israddedig yr Adran mewn Seicoleg sgôr o 95% am foddhad cyffredinol yn yr arolwg blynyddol.
Mae canlyniadau’r Adran yn rhan o lwyddiant ehangach Prifysgol Aberystwyth sydd ar y brig yng Nghymru ac ymhlith y deg uchaf yn nhabl sefydliadau addysg uwch y Deyrnas Unedig o ran boddhad cyffredinol myfyrwyr, yn ôl yr arolwg myfyrwyr eleni.
Mae’r canlyniadau’n dangos bod boddhad cyffredinol ymhlith myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 92%, sef chwe phwynt canran yn uwch na ffigur y Deyrnas Unedig o 86%.
Meddai Dr Nigel Holt, Pennaeth Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth: “Rwyf bob amser wedi ymfalchïo yn y modd y mae staff a myfyrwyr yn cydweithio yn Seicoleg i wneud hon yn adran gyfeillgar, groesawgar a gweithgar gyda ffocws pendant. Mae’n rhoi boddhad arbennig i bob un ohonom, yn staff a myfyrwyr, i weld hyn yn cael ei adlewyrchu’n gwbl glir yng nghanlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr. Mae wir yn tanlinellu’r modd y mae’r adran yn gweithio fel cymuned gref sydd ag agwedd golegaidd a chefnogol tuag at ddysgu.”
“Mae’n wirioneddol wych bod y boddhad cyffredinol eleni’n 93%, ond rwyf hefyd yn falch o weld bod ein hymdrechion i wella ffyrdd o wneud sylwadau ar waith y myfyrwyr, i’w helpu i ddysgu a datblygu’u gwaith, a’r cymorth a roir i’r myfyrwyr gan yr holl staff – gweinyddol, technegol ac academaidd – yn cael sgôr o dros 80%.”
“Mae’n glod arbennig i’r tîm cymorth bod trefniadaeth a rheolaeth yn cael cydnabyddiaeth dda iawn yn y ffigurau hyn, ac felly hefyd y gwaith caled a wneir gan y rhai sy’n gyfrifol am ddatblygu a sicrhau cyfleusterau ac adnoddau o’r radd flaenaf. Mae’n gwbl glir o’r data hwn bod myfyrwyr a staff trwyddi draw yn gweithio’n agos â’i gilydd i wneud yr adran seicoleg yn lle braf i fod - yn gymuned, yn rhywle y gall myfyrwyr ddarganfod beth yw eu diddordebau dan arweiniad arbenigol, hael a chroesawgar.”
Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn casglu data o 155 o Sefydliadau Addysg Uwch y Deyrnas Unedig, a chaiff ei gydnabod fel ffynhonnell ddylanwadol o wybodaeth ar gyfer darpar fyfyrwyr wrth iddynt ystyried eu hopsiynau.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio yn Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth, a chanfod pam bod ein myfyrwyr mor fodlon gyda’u cyrsiau, yna nid yw’n rhy hwyr. Mae gennym rai lleoedd clirio ar ôl ar gyfer y flwyddyn academaidd 2016-17, neu dewch i’n gweld ar un o’n Diwrnodau Agored.
Mae ffigurau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn dod yn dynn ar sodlau ffigurau cyflogadwyedd diweddaraf Prifysgolion y Deyrnas Unedig, sy’n dangos bod 100% o raddedigion Seicoleg mewn gwaith neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl gadael Prifysgol Aberystwyth yn 2015.
Cynhelir yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn flynyddol gan IPSOS Mori ar ran holl gynghorau cyllido addysg uwch y Deyrnas Unedig a chyrff eraill, ac mae’n gofyn barn tua 312,000 o fyfyrwyr blwyddyn olaf yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.