CYSTADLEUAETH FFOTOGRAFFIAETH DIWRNOD RHYNGWLADOL Y MENYWOD
26 Ionawr 2014
Fel rhan o ddathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Merched Prifysgol Aberystwyth 2014, mae'r Tîm Athena Swan yn lansio cystadleuaeth ffotograffiaeth i ennill taleb Amazon gwerth £25 ar gyfer y ddelwedd fwyaf ysbrydoledig ac atgofus sy'n gysylltiedig â’r thema gyffredinol o 'Fenywod mewn Gwyddoniaeth, technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth (STEMM)'. Mae'r gystadleuaeth yn agored i holl staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dywedodd yr Athro Kate Bullen, Cyfarwyddwr Athrofa’r Gwyddorau Dynol ac arweinydd Athena SWAN, "Mae Athena SWAN yn canolbwyntio ar ddilyniant gyrfa merched mewn STEMM, ac mae’r gystadleuaeth yma’n gyfle gwych i archwilio ac amlygu ffyrdd newydd o bortreadu menywod yn y pynciau hyn." Ychwanegodd Dr Rachel Horsley a Dr Pip Nicholas Hyrwyddwyr Amrywiath Athena SWAN, "Mae Aberystwyth wedi ymrwymo i gefnogi cyfle cyfartal i bawb; ac mae agwedd allweddol o’r ymrwymiad hwn yn cael ei ddangos gan y ceisiadau yr ydym yn ei wneud ar gyfer dyfarniadau efydd Athena Swan ar gyfer cydraddoldeb rhyw mewn STEMM. “Yn ogystal, bydd y tîm Athena Swan yn cynnal astudiaeth arolwg ar-lein ar raddfa fawr o ferched a dynion mewn pynciau STEMM yn y dyfodol agos i ymchwilio profiadau dilyniant gyrfa cyn-fyfyrwyr, academyddion, staff ymchwil, staff technegol a gweinyddwyr ar bob cam o’u gyrfa . Mae eich cyfranogiad yn yr arolwg hwn yn wirioneddol bwysig, fel y gallwn ganfod ffyrdd y gall PA gefnogi pob unigolyn i gyflawni eu potential o ran gyrfa - edrychwch allan am y gwahoddiad e-bost ddiwedd mis Ionawr. Byddwn hefyd yn cynnal rhai grwpiau ffocws (i ddechrau gyda menywod yn unig) i archwilio rhwystrau a'r hwyluswyr ar gyfer ceisiadau am ddyrchafiad. Bydd y ddwy astudiaeth yma yn hanfodol er mwyn gyrru newid cadarnhaol ymlaen. Am wybodaeth ychwanegol ar ddyfarniadau Athena SWAN, ewch i: http://www.athenaswan.org.uk i gymryd rhan yn y gystadleuaeth, anfonwch eich llun drwy e-bost at Dr Rachel Horsley ar rrh10@aber.ac.uk erbyn 12yp ar Ddydd Gwener, 21 Chwefror 2014 . Dylai ceisiadau gynnwys y wybodaeth ganlynol: enw, teitl neu gapsiwn y llun. Fydd angen danfon y llun mew da bryd cyn y dyddiad cau rhag ofn fod main y ddelwedd yn achosi problemau cyflwyno. Ni fydd ceisiadau hwyr yn cael eu derbyn.
Bydd yr enillydd yn cael ei hysbysu drwy e-bost erbyn yr 28ain o Chwefror, a byddant yn derbyn eu gwobr yn ystod dathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yr wythnos ganlynol (3-7 Mawrth). Trwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon rydych yn cytuno i arddangos eich llun ar ffurf copi caled neu electronig o amgylch y brifysgol yn ystod yr wythnos hon.
Bydd ceisiadau priodol yn cael eu lanlwytho ar dudalennau gwe allanol PA yn unig gyda chaniatâd ysgrifenedig yr ymgeisydd a thelerau a gytunwyd o ddefnydd.
Bydd y ceisiadau dienw yn cael eu beirniadu gan banel a gyfansoddwyd o bum aelod o Brifysgol Aberystwyth a Thimau Athena Swan IBERS: Yr Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Ymchwil, Yr Athro Kate Bullen, Gary Reed, Cyfarwyddwr yr Adran Ymchwil, Datblygu ac Arloesi Olymbia Petrou, Ymgynghorydd Cydraddoldeb, a Joy Arkley, Partner Busnes Adnoddau Dynol IBERS.