Arbenigydd blaenllaw ar astudiaethau gefeillio yn cyflwyno ymchwil yn Aberystwyth
Mae Nancy Segal yn Athro Seicoleg ym Mhrifysgol Talaith California, Fullerton.
16 Mehefin 2023
Bydd arbenigydd blaenllaw ar y berthynas rhwng gefeilliaid yn siarad am ei hymchwil diweddaraf ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Mehefin 2023.
Mae Dr Nancy Segal yn Athro Seicoleg yn ogystal ag yn Gyfarwyddwr a Sylfaenydd y Ganolfan Astudiaethau Gefeilliaid ym Mhrifysgol Talaith California, Fullerton.
Bydd yn rhannu ei hymchwil mewn dwy sesiwn ar wahân fel rhan o Gyfres Seminarau Ymchwil yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Yn ei sesiwn gyntaf ‘Twins: The Science and the Fascination’, bydd Dr Segal yn traddodi darlith 45 munud gyda sesiwn holi-ac-ateb i ddilyn, yn ystafell C22 yn adeilad Hugh Owen ar gampws Penglais rhwng 2 a 3yp ddydd Mawrth 20 Mehefin.
Bydd yr ail sesiwn ‘Deliberately Divided: Inside the Controversial Study of Twins and Triplets Adopted Apart’ ar ffurf seminar ac fe’i cynhelir rhwng 2 a 3yp ddydd Mercher 21 Mehefin yn ystafell C4 yn adeilad Hugh Owen.
Dywedodd Dr Gil Greengross, seicolegydd esblygiadol ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae ymchwil arloesol Dr Segal ar efeilliaid a’u nodweddion yn destun canmoliaeth fyd-eang ac mae galw am ei hymchwil nid yn unig mewn cylchoedd academaidd ond hefyd fel arbenigydd ar y teledu, ar y radio ac mewn llysoedd barn. Rydyn ni’n falch iawn o’i chroesawu i Aberystwyth a chael y cyfle unigryw hwn i’w chlywed yn siarad a thrafod ei chanfyddiadau’n fanylach.”
Mae Dr Segal wedi cyhoeddi naw llyfr ac wedi ysgrifennu mwy na 300 o erthyglau ysgolheigaidd. Enillodd ei llyfr Born Together-Reared Apart: The Landmark Minnesota Twin Study (Gwasg Prifysgol Harvard, 2012) Wobr Llyfr Williams James y Gymdeithas Seicolegol Americanaidd tra bod ei chyhoeddiad Deliberately Divided: Inside the Controversial Study of Twins and Triplets Adopted Apart (Rowman & Littlefield, 2021) yn destun rhaglen ddogfen gan y BBC ym mis Gorffennaf 2022.