Prifysgol Haf 2015
07 Hydref 2015
Ydych chi erioed wedi meddwl pam nad yw rhai tystion a gwylwyr yn ymyrryd mewn argyfyngau? Oeddech chi’n gwybod ei bod hi’n bosibl ‘mewnblannu’ atgofion ar gyfer pethau na ddigwyddodd? Mae effaith y gwyliwr a rhithiau’r cof yn ddwy enghraifft yn unig o’r cynnwys y mae’r myfyrwyr wedi bod yn dysgu amdanynt ym modiwl seicoleg ragarweiniol y Brifysgol Haf eleni.