Ymchwil

Rydym yn gosod pwyslais mawr ar ymchwil...

...ac yn cefnogi grwpiau o bwys sy’n gwneud gwaith blaenllaw yn y byd gwyddonol:

  • Mae grŵp Ffiseg Cysawd yr Haul yn astudio’r gyfres o ddigwyddiadau sy’n arwain o’r Haul, trwy wynt yr haul, i atmosfferau ac arwynebeddau’r planedau.
  • Yn y grŵp Ymchwil Deunyddiau, defnyddir technegau arbrofol datblygedig ar y cyd â modelu mathemategol a chyfrifiannol i esbonio’r cysylltiadau pwysig sy’n pennu priodoleddau materol gwydrau, serameg, lled-ddargludyddion, nano-ronynnau, a haenau tenau.

Mae ymchwilwyr ym mhob grŵp yn cydweithio ar brosiectau ehangach ac maent yn bartneriaid gweithredol yn y Ganolfan ar gyfer Deunyddiau a Dyfeisiadau Swyddogaethol Uwch (CAFMaD) a Sefydliad Gwyddorau Cyfrifiadurol a Mathemategol Cymru (WIMCS).

Yn ogystal â hyn, mae’r ymchwilwyr Ffiseg yn gweithio gyda’u cydweithwyr yn yr adran Fathemateg.

Gweler tudalennau’r grwpiau canlynol am ragor o wybodaeth: