Ffiseg Cysawd yr Haul

Mae egni a mater yn dod yn rhydd o’r Haul ac yn llifo trwy ein heliosffer ni, yn ryngweithio gydag atmosfferau planedol ac wynebau, yn pweru llawer o’r prosesau sydd yn ffurfio ein byd ni a diffinio’r amgylchedd planedol yr ydym yn byw ynddo.

Mae’r grŵp ‘ffiseg cysawd yr haul’ yn Aberystwyth yn astudio’r cysawd sengl yma gan gynnwys datblygiad nodweddion ffrwydrol ar yr Haul, yr esblygiad a strwythur deunydd yng ngwynt heulol a’r effaith y llif yma ar amgylcheddau’r planedau mewnol. Mae’r cymhwysiad o wyddoniaeth yma yn cyd-fynd â rhaglen o ddarganfod cysawd yr haul, mae’r grŵp hefyd yn ymchwilio technoleg roboteg ar gyfer teithiau yn y dyfodol a fydd yn gwella’u hansawdd ymchwil nhw.

Cynhelir ymchwil gan y grŵp ar bedwar prif themâu er mwyn ehangu ein gwybodaeth o ryngweithiadau planedol-heulol hyd at gylchdro Mawrth, ac i wella effeithlonrwydd y genhedliad nesaf o deithiau darganfod planedol. Mae’n ymchwil a’n ysgoloriaethau PhD wedi eu ariannu gan y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC, https://stfc.ukri.org/about-us/ynglc5b7n-a-stfc/), y Coleg Cymraeg Cendlaethol, ac eraill. Dyma’r themâu:

 

Ffiseg Heulol:

Mae’r thema ffiseg yr haul yn ychwilio’r prosesau heulol sy’n arwain at all-lif a ffrwydrad o ddeunydd heulol i’r gofod rhyngwladol. Mae cysylltiad cryf rhwng y prosesau yma a’r maes magnetig heulol, a chynhelir ymchwil ar strwythur a dynameg y maes magnetig yn yr atmosffer heulol.

Y Gwynt Heulol a’r Heliosffer:

I archwilio’r strwythur a’r dynameg yr all-lifoedd a ffrwydradau yma wrth iddynt estyn i’r heliosffer.

Magnetosfferau Planedol ac Ïonosfferau:

I archwilio’r effaith deunydd heulol wrth iddo ryngweithio a phlanedau, a sut mae hynny’n effeithio ar golled atmosfferau planedol, yn enwedig ar Fenws; Cymharu ymddygiad y magnetosfferau, ïonosfferau ac ecsosfferau o blanedau cysawd yr haul. Rydym yn gyfrifol (oherwydd Europlanet) am weithredu’r Gwasanaeth Tywydd Gofodol Planedol Ewropeaidd.

Wynebau Planedol a Darganfod Roboteg:

I ddarganfod cyfansoddiad y Lleuad a phlanedau mewnol a’u hanes ffurfiant; i ddatblygu’r genhedliad nesaf o roboteg am archwiliad planedol. Rydym yn gweithio yn agos gydag Europlanet.

Mae Europlanet 2020 RI wedi derbyn nawdd oddi wrth raglen ymchwil a gweithredu arloesol Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd o dan gytundeb cymhorthdal Rhif 654208.