Astudio dramor

Golygfa o Copenhagen ar lan yr afon

Ym Mhrifysgol Aberystwyth cewch amrywiaeth cyffrous o opsiynau i fynd tramor fel rhan o’ch gradd: o gyrsiau byr a chyfleoedd i wirfoddoli yn yr haf, i semester neu flwyddyn lawn dramor yn astudio eich dewis bwnc yn un o’n prifysgolion partner.

Os ydych chi’n astudio gradd gyda blwyddyn ddiwydiannol integredig, gallwch ddewis treulio rhan neu’r cyfan o’ch blwyddyn mewn diwydiant dramor i gwblhau eich lleoliad gwaith.

Caiff myfyrwyr sy’n astudio MPhys Ffiseg gyda Ffiseg y Planedau a’r Gofod gyfle digyffelyb i dreulio ail semester eu blwyddyn olaf (Ionawr – Mai) yn astudio yn UNIS (Canolfan Brifysgol ar Svalbard) prifysgol ryngwladol yn nhref Longyearbyen ar Svalbard. Mae myfyrwyr ledled Ewrop yn cwrdd i astudio cyrsiau uwch ym maes gwyddor begynol (bydd yr holl ddysgu yn cael ei wneud yn Saesneg ac nid oes unrhyw ffioedd dysgu ychwanegol).

Mae adroddiadau’n dangos bod myfyrwyr sy’n astudio dramor yn fwy deniadol i gyflogwyr ac yn ennill mwy na’u cymheiriaid. Gall amser a dreuliwch yn dysgu am ddiwylliant newydd gyfoethogi eich sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu, gwella eich gallu iaith ac ehangu eich meddylfryd rhyngwladol. Pam na fanteisiwch chi ar gyfle oes a gwella eich sgiliau beirniadol drwy ddewis astudio dramor?

Gwybodaeth am ble y gallwch fynd fel myfyriwr yn yr Adran Ffiseg.