Cyflogadwyedd

Peirianwyr yn adeiladu arae paneli

Bydd gradd mewn Ffiseg yn eich darparu chi am gyrchfannau gyrfaol megis ffisegydd meddygol, technegydd labordy gwyddonol, ymarferydd amddiffyniad rhag pelydriad a gwyddonydd ymchwil.

Mae llwybrau gyfra eraill yn cynnwys datblygwr systemau, gwyddonydd datblygiad cynnyrch, awdur technegol neu feteorolegwr.

Mae rhai o'n cyrsiau ar gael gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant, sy’n rhoi'r cyfle i chi gael profiad gwaith gwerthfawr mewn sector perthnasol a chymhwyso'r theori yr ydych wedi'i dysgu ar eich cwrs i sefyllfaoedd a phrosiectau ymarferol. Bydd cwblhau eich lleoliad yn rhoi ystod amlwg o sgiliau profiadol a thechnegol i chi, a fydd yn eich gwneud yn fwy apelgar i gyflogwyr ar ôl graddio.

 

Sgiliau Trosglwyddadwy

Byddwch yn ennill amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy gan astudio am radd Ffiseg y bydd cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi’n fawr. Dyma rhai ohonynt:

  • Sgiliau dadansoddi data ac ymchwil
  • Sgiliau datblygedig cyfrifiadol a mathemategol
  • Sgiliau meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithiol
  • Gallu i ddelio gyda chysyniadau haniaethol
  • Sylfaen mewn sgiliau technoleg gwybodaeth
  • Gallu i weithio’n annibynnol
  • Sgiliau rheoli-amser a threfniadol gan gynnwys cyrraedd dyddiadau cau
  • Gallu i fynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth mewn dull eglur a chyfundrefnus, ar ffurf lafar ac ysgrifenedig
  • Hunan-gymhelliad a hunan-ddibyniaeth
  • Gweithio mewn tîm, gallu i drafod cysyniadau mewn grŵp, goddef syniadau gwahanol i’ch rhai chi a chyrraedd cytundeb.

Cynllun Blwyddyn mewn Diwydiant (YES)

Cynhelir Cynllun Blwyddyn mewn Diwydiant (YES) gan y brifysgol sydd yn gyfle gwych i chi weithio mewn cwmni yn y DU neu dramor rhwng yr ail flwyddyn a’r drydydd o’ch gradd. Mae YES yn darparu profiad buddiol a gwerthfawr, personol a phroffesiynol fel eu gilydd, ac mae’n eich helpu i gystadlu’n fwy effeithiol mewn marchnad swyddi gystadleuol iawn. Bydd Gwasanaeth Gyrfaoedd y brifysgol yn eich helpu i archwilio opsiynau a dod o hyd i leoliad gwaith priodol.

GO Wales

Gweinyddir GO Wales gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, mae’n cydweithredu a chwmnïoedd lleol i greu lleoliadau wedi’u talu am ychydig o wythnosau i fyfyrwyr. Cewch gyfle i ennill profiad gwaith gwerthfawr a fydd yn gwella’ch CV a’ch golwg yn llygaid cyflogwyr.

Blwyddyn 1

Cynigir y modiwl 'Cynllunio Gyrfa a Datblygu Sgiliau Ffiseg' i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf sydd yn ymwneud â materion megis ysgrifennu CV, gweithio mewn tîm, rhaglennu cyfrifiaduron, rheoli amser a sgiliau cyflwyno sydd yn hanfodol wrth sôn am wella'ch cyflogadwyedd.

Blwyddyn 2

Bydd cyfle i chi gymryd rhan mewn digwyddiad gyrfaoedd, sydd yn cynnwys sesiynau sylweddoli ar eich cyflogadwyedd a'i datblygu, cyfweliadau ffug, cyngor CV a chyflwyniadau gan gyn-fyfyrwyr sydd yn gweithio yn y diwydiant neu ar ymchwil. Mae'r holl hyfforddiant yma'n gwella'ch hyder chi ac yn eich paratoi am y byd gwaith.

Bydd yr holl fyfyrwyr yn gweithio mewn grŵp fel rhan o'm modiwl labordy arbrofol ni yn yr ail flwyddyn. Mae hwn yn gam bwysig tuag at ddatblygu'ch sgiliau am yrfa mewn ymchwil neu yn y diwydiant ac mae'n cynnig profiad gwaith realistig.

Blwyddyn Olaf

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn darparu am gyflogadwyedd wrth i'ch cwrs ddod i ben. Darparem cyflwyniadau o amgylch ysgrifennu ceisiadau swydd, cyflwyniadau oddi wrth alumni o amgylch eu swyddi nhw, a chyflwyniadau oddi wrth cyflogwyr eu hunain. Cewch archebu sesiynau wyneb-yn-wyneb gyda'r Gwasanaeth Gyrfaoedd Ymgynghorol.

Mae prif brosiect yn ffurfio rhan sylweddol o'ch blwyddyn olaf chi; dyma gyfle i chi greu prosiect unigol sydd yn arddangos eich galluoedd, a fydd o ddiddordeb mawr i gyflogwyr.

Ôl-raddedigion

Mae'r cyflogwyr o ddiwydiant STEMM yn hela'r wybodaeth a sgiliau datblygedig arbenigol y bydd myfyrwyr yn eu hennill ar ein cyrsiau addysgedig ôl-raddedig ni. Mae ein ôl-raddedigion ymchwil ni yn ennill sgiliau hynod o arbenigol sydd yn hanfodol am yrfaoedd lefel-uwch mewn ymchwil ymhellach neu'r diwydiant.