Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg

Person mewn silwét yn erbyn awyr serennog liwgar

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig lefel uchel o ddarpariaeth i fyfyrwyr allu astudio drwy gyfrwng y Gymraeg – un o’r uchaf yng Nghymru.

Mae’r Adran Ffiseg yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio rhan o’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym ni’n cynnig nifer o fodiwlau a chyrsiau y gellir eu hastudio’n rhannol neu’n llwyr drwy gyfrwng y Gymraeg. Gallwch hefyd ddewis cyflwyno eich gwaith cwrs yn Gymraeg os ydych yn dymuno, hyd yn oed os caiff y modiwl ei addysgu yn Saesneg.

Ceir cyfleoedd i fyfyrwyr sy’n rhugl yn Gymraeg, yn ogystal â’r rhai sy’n llai hyderus neu’n ddysgwyr. Ceir amrywiadau yn y modiwlau cwrs israddedig ac o ran faint y gellir ei astudio yn Gymraeg.

‘Addewidion Aber’ yw ymrwymiad Prifysgol Aberystwyth i ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn dilyn Strategaeth Academaidd cyfrwng Cymraeg y Brifysgol. Dyma’r cynllun mwyaf cynhwysfawr o’i fath gan unrhyw brifysgol yng Nghymru. Mae’r ymrwymiadau hyn yn amlygu’r hyn sy’n arbennig am Aberystwyth a sut mae’r Brifysgol yn cynnig profiad Cymraeg llawn i fyfyrwyr, gan gynnwys:

  • Cyfleoedd hyblyg i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob adran
  • Gwarant o Diwtor Personol sy’n siarad Cymraeg
  • Profiad gwaith dwyieithog
  • Gwarant o lety Cymraeg
  • Cefnogaeth i ddysgu a gwella eich Cymraeg
  • Arian yn eich poced am ddilyn rhwng 5 a 40 credyd yn Gymraeg
  • Aelodaeth o Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth am ddim
  • Gofod i gymdeithasau cyfrwng Cymraeg.