Cricsyn yn eich browni? Profi blas bwyd o bryfed
02 Awst 2024
Mae gwyddonwyr o Gymru yn profi sut mae pobl yn ymateb i fwyta bwydydd ⠰hryfed ynddyn nhw fel rhan o ymchwil i brotein gwyrddach.
Hwb ariannol cyn-fyfyriwr i ymchwil ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth
05 Awst 2024
Mae myfyriwr graddedig o Aberystwyth y cydnabuwyd ei waith gan NASA wedi gadael dros £720,000 i’w gyn-brifysgol i gefnogi ymchwil a phrosiect yr Hen Goleg.
Cwrs haf yn taro’r nod yn Aberystwyth
06 Awst 2024
Mae rhaglen breswyl haf flynyddol Prifysgol Aberystwyth sy’n cynnig rhagflas o fywyd myfyrwyr wedi profi’n boblogaidd iawn unwaith eto eleni.
Ymchwilwyr tywydd eisteddfodol yn gofyn am atgofion y cyhoedd
08 Awst 2024
Os ydych yn cofio tywydd crasboeth Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi yn 1976, y neu'r gwyntoedd cryfion yn Nhŷ Ddewi yn 2002 neu'r glaw ym Môn saith mlynedd yn ôl mae ymchwilwyr eisiau eich atgofion
Pili-palod yn ffafrio golau uwchfioled – astudiaeth newydd
08 Awst 2024
Mae’n well gan bili-palod olau ag ynddo uwchfioled, yn ôl astudiaeth newydd gan wyddonwyr Prifysgol Aberystwyth a allai wella sut mae pryfed yn cael eu cadw dan do.
Radar newydd i gymryd y mesuriadau 3D cyntaf o Oleuadau’r Gogledd
12 Awst 2024
Bydd radar newydd sy’n cael ei adeiladu yn Sgandinafia yn cael ei defnyddio gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth i gymryd mesuriadau tri dimensiwn cyntaf o Oleuadau’r Gogledd.
Ymchwil newydd ar sut mae iaith yn helpu i integreiddio newydd-ddyfodiaid
13 Awst 2024
Mewn cyfnod o fudo cynyddol, beth yw'r dulliau’r gorau o integreiddio newydd-ddyfodiaid i iaith y wlad sy’n eu croesawu? Dyna’r cwestiwn a gaiff sylw astudiaeth arloesol a ariennir drwy grant ymchwil uchel ei fri gan Ymddiriedolaeth Leverhulme.
Gwarchod rhag dewiniaeth gyda phapur: ateb bob dydd ar gyfer problemau bob dydd
14 Awst 2024
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Judith Tulfer o’r Adran Hanes a Hanes Cymru yn trafod ei hymchwil ar y swynion iacháu ac amddiffyn hynod ddiddorol a grëwyd gan ddynion hysbys yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Daeth Maen Allor Côr y Cewri o’r Alban, nid Cymru
14 Awst 2024
Daeth y “garreg las” fwyaf sydd yng nghanol Côr y Cewri o ogledd yr Alban, nid Cymru, yn ôl ymchwil newydd.
Amrywiaeth planhigion ar diroedd sych y byd yn synnu gwyddonwyr
19 Awst 2024
Gwelwyd cynnydd yn amrywiaeth y planhigion mewn ardaloedd sychach o'r byd wrth iddynt addasu i amodau mwy cras, yn ôl astudiaeth newydd sydd wedi synnu gwyddonwyr.
Mae'r arddangosfa o weithiau celf sydd wedi'u hachub yn nodi ymdrechion i ddileu diwylliant Wcráin - ac yn dangos yr hyn sydd wedi goroesi
19 Awst 2024
Mewn erthygl yn The Conversation mae Dr Jenny Mathers o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod sut mae rhyfel Rwsia yn y Wcráin yn targedu nid yn unig bywydau ond hefyd treftadaeth ddiwylliannol Wcráin.
Mythau Celtaidd yn destun trafod yn Aberystwyth
20 Awst 2024
Daw arbenigwyr o bedwar ban ynghyd i drafod mythau Celtaidd hynafol mewn cynhadledd yn Aberystwyth fis nesaf.