Pili-palod yn ffafrio golau uwchfioled – astudiaeth newydd

Myfyriwr yn dal pili-pala

Myfyriwr yn dal pili-pala

08 Awst 2024

Mae’n well gan bili-palod olau ag ynddo uwchfioled, yn ôl astudiaeth newydd gan wyddonwyr Prifysgol Aberystwyth a allai wella sut mae pryfed yn cael eu cadw dan do.

Mae'n hysbys bod pryfed o wahanol rywogaethau yn cael eu denu at olau artiffisial, ond ychydig iawn a wyddys am effeithiau goleuo ar ymddygiad pili-palod.

Yn ôl ymchwil newydd a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Animal Behaviour, er nad yw goleuadau artiffisial heb uwchfioled yn effeithio ar ymddygiad cyffredinol pili-palod; o gael dewis, mae'n well ganddyn nhw olau uwchfioled.

Gwnaed yr ymchwil gan academyddion yn Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth, gyda chymorth Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, mewn man lle gallai’r pili-palod hedfan yn rhydd.

Rhannwyd yr arena yn ddau hanner i brofi dau fath gwahanol o amodau goleuo gyda Vanessa cardui, pili-pala sy’n fwy adnabyddus fel y ‘Painted Lady’.

Mae gan y pili-pala ‘Painted Lady’ olwg lliw tebyg i lawer o bryfed eraill, ond yn dra gwahanol i bobl, gan fod gan eu llygaid oleudderbynyddion sy'n sensitif i olau uwchfioled, glas a gwyrdd.

Roedd y pili-palod yn amlwg yn ffafrio'r golau uwchfioled hyd yn oed pan oedd yn llai llachar na’r golau heb uwchfioled.

Mae anifeiliaid sy’n cael eu cadw mewn lleoedd caeth megis sw neu anifeiliaid anwes domestig yn aml yn cael eu cadw mewn amodau â golau artiffisial. Fodd bynnag, nid oes gan olau artiffisial sydd wedi’i gynllunio ar gyfer pobl donfeddi uwchfioled y gall llawer o anifeiliaid eu gweld.

Mae gan y canfyddiadau oblygiadau o ran lles ac ymddygiad anifeiliaid, gyda thonfeddi uwchfioled yn aml yn brin mewn goleuadau artiffisial a geir mewn llociau dan do ar gyfer adar, ymlusgiaid, pysgod a phryfed.

Dywedodd uwch awdur yr ymchwil, Dr Roger Santer o Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae lles anifeiliaid caeth yn fater o bwys mawr, boed yr anifeiliaid hynny’n cael eu magu’n fasnachol, eu cadw fel anifeiliaid anwes neu eu bridio fel rhan o ymdrechion cadwraeth. Dyna pam mae astudio effaith yr amgylchedd rydym ni’n cadw’r anifeiliaid hyn ynddo yn hollbwysig. Mae’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr i’w hiechyd a’u lles – ac mae goleuo yn un rhan o hynny.

“Fel pobl, nid ni yn aml yw’r rhai gorau i farnu ar sut mae anifeiliaid eraill yn profi’r byd. Mae pryfed, fel pili-palod, yn un enghraifft. Nid yw golwg dynol yn sensitif i donfeddi uwchfioled, ond mae uwchfioled yn elfen bwysig o olwg lliw llawer o rywogaethau eraill.”

Ychwanegodd y prif awdur Dr Rowan Thomas:

“Mae’r canllawiau moesegol presennol ar gyfer ceidwaid pili-palod yn sôn yn benodol am fwyd, gofod, tymheredd, lleithder a hylendid, ond nid golau. Gallai deall eu hanghenion goleuo wella hwsmonaeth ar gyfer pili-palod, a chaniatáu, yn ei dro, mwy o fridio ar y safle; a gallai’r pryfed iachach wella profiad ymwelwyr hefyd. Gallai arferion hwsmonaeth gwell hefyd wella gwytnwch pili-palod sy’n cael eu magu i’w rhyddhau i natur.”