Cricsyn yn eich browni? Profi blas bwyd o bryfed

Pryfed yn cael eu magu ym Mhrifysgol Aberystwyth

Pryfed yn cael eu magu ym Mhrifysgol Aberystwyth

02 Awst 2024

Mae gwyddonwyr o Gymru yn profi sut mae pobl yn ymateb i fwyta bwydydd ⠰hryfed ynddyn nhw fel rhan o ymchwil i brotein gwyrddach.

Mae pryfed yn rhan gyffredin o ddiet bob dydd pobl mewn gwledydd ar draws y byd, megis Mecsico, Tsiena a Ghana.

Maen nhw’n cynnig ffynhonnell protein fwy amgylcheddol-gyfeillgar na llawer o fwydydd eraill, a gallen nhw gynorthwyo bwydo poblogaeth gynyddol y byd.

Dengys ymchwil fod tua 30% o gwsmeriaid yr Undeb Ewropeaidd yn fodlon bwyta bwyd a wnaed o bryfed.

Wedi’i ariannu gan Hyb Ymchwil Dyfodol Gwledig Prifysgol Aberystwyth, nod yr astudiaeth ddiweddaraf yw profi pa mor dderbyniol yw bwydydd o bryfed i’r cyhoedd.

Mae’r academyddion yn defnyddio bythau synhwyro arbenigol ar gampws ArloesiAber y Brifysgol ar gyfer profi a gwella bwydydd a’u cynnwys maethol.

Edrychodd y sesiynau blasu diweddaraf ar ymateb pobl i fwyta brownis siocled gyda, a heb flawd criced ynddyn nhw.

Dywedodd Yr Athro Alison Kingston-Smith, o Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Gyda phoblogaeth sy’n cynyddu, mae angen rhagor o ffynonellau bwyd cynaliadwy ar y byd. Gallai pryfed fod yn un o’r rheina. Mae ein profion diweddaraf yn ceisio profi ansawdd, ymwybyddiaeth a pharodrwydd y cyhoedd i dderbyn brownis sydd wedi cael eu pobi ⠢lawd criced – ydy ni’n gallu blasu'r gwahaniaeth mewn gwirionedd?

“Mae hwn yn bwysig achos gallai ychwanegu blawd wedi’i seilio ar bryfed ddod ⠢uddion sylweddol - disodli protein llai cynaliadwy sy’n cael ei fewnforio, cynnig incwm newydd i ffermwyr a gwella iechyd pobl.”

Ychwanegodd yr Athro Kingston-Smith:

“Mae pryfed yn cynnig cyfle i amaethyddiaeth a’r sector bwyd i arallgyfeirio er mwyn cael mynediad at farchnadoedd newydd. Ac mae’r ymchwil hwn yn gweddu’n dda gyda Chanolfan Bwyd y Dyfodol y Brifysgol ar ein Campws ArloesiAber. Does dim amheuaeth bod protein pryfed yn derbyn sylw cynyddol yn y sector bwyd, a bydd ein hymchwilwyr yn rhan o’r datblygiadau cyffrous hynny.”

Mae ArloesiAber yn un o bum campws ymchwil ac arloesi sydd wedi’i ariannu gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Biolegol a Biotechnoleg y UKRI (BBSRC) ac wedi’i leoli ar gampws Gogerddan Phrifysgol Aberystwyth sy’n safle bridio cnydau hanesyddol. Mae’n gweithio gyda chwmn o bob maint i hybu datblygiadau arloesol ym meysydd newid hinsawdd a diogelwch bwyd, gan ddod ag arbenigedd academaidd a diwydiant ynghyd.