Hwb ariannol cyn-fyfyriwr i ymchwil ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth

Dr Rhidian Lawrence (chwith) yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr doethuriaeth yn yr Adran Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn y llun hefyd mae Bryn Price (ar ei eistedd), a chwith i’r dde, Emyr Evans, Emyr Winstanley a Dan Rees.

Dr Rhidian Lawrence (chwith) yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr doethuriaeth yn yr Adran Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn y llun hefyd mae Bryn Price (ar ei eistedd), a chwith i’r dde, Emyr Evans, Emyr Winstanley a Dan Rees.

05 Awst 2024

Mae myfyriwr graddedig o Aberystwyth y cydnabuwyd ei waith gan NASA wedi gadael dros £720,000 i’w gyn-brifysgol i gefnogi ymchwil a phrosiect yr Hen Goleg.

Yn wreiddiol o Drefin yn Sir Benfro, graddiodd Dr Rhidian Lawrence gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Ffiseg ym 1962 ac astudiodd am ddoethuriaeth fel aelod o grŵp ymchwil siocdonnau’r Brifysgol cyn symud i Brifysgol Toronto.

Yn ystod gyrfa broffesiynol o bron i ddeugain mlynedd, bu Dr Lawrence yn gweithio i gwmnïau awyrofod yn Alabama a Seattle, a’r ​​Weinyddiaeth Eigionol ac Atmosfferig Genedlaethol yn Colorado.

Roedd yn arbenigwr ym maes technoleg laser, a pharhaodd ei gariad tuag at y Gymraeg a’i diwylliant, ag yntau’n canu gyda Chôr Cymreig Seattle ac yn cefnogi digwyddiadau fel y Gymanfa Ganu Genedlaethol.

Yr oedd hefyd yn edmygydd o'r ffisegydd o Geredigion a Chymrawd y Gymdeithas Frenhinol, yr Athro E J Williams, a lwyddodd i arddangos yn uniongyrchol ddadfeiliad pelydr cosmig meson i electron mewn arbrawf yn yr Hen Goleg ym 1940.

Roedd Dr Lawrence, a fu farw ym mis Gorffennaf 2023, hefyd yn gefnogwr mawr o wyddonwyr Cymreig ac ysgrifennodd lyfr yn y Gymraeg ar wyddonwyr pwysig o Gymru, sy’n cael ei olygu ar gyfer ei gyhoeddi.

Bydd ei gymynrodd yn cyllido cyfres o raddau doethur (PhD) yn Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth, gyda’r gyntaf yn cael ei chynnig o fis Medi 2024.

Bydd ei gyfraniad hefyd yn cael ei goffáu fel rhan o ailddatblygiad yr Hen Goleg, lle dechreuodd ar ei yrfa fel gwyddonydd ymchwil yn y 1960au cynnar.

Bydd sinema o’r radd flaenaf ym mharth Byd Gwybodaeth prosiect uchelgeisiol yr Hen Goleg yn cael ei henwi ar ei ôl a darlith gyhoeddus flynyddol yn cael ei chynnal yno yn ei enw.

Chwith i’r dde: Dr Matt Gunn, Faye Thompson, Manon Rogers a’r Athro Jon Timmis o Brifysgol Aberystwyth, Ann Lawrence, chwaer Rhidian Lawrence, Dr Alan a Gretta Upshall, ffrindiau i Rhidian Lawrence o Seattle, a Lyndsay Stokes, Dr Rachel Cross a’r Athro Huw Morgan o Brifysgol Aberystwyth.

Bydd ei rodd hefyd yn cefnogi catalogio casgliad hanesyddol yr Adran Ffiseg, a bydd cydnabyddiaeth bellach wrth ymyl arddangosfa am hanes yr Athro E J Williams FRS.

Cafodd haelioni Dr Lawrence ei gydnabod ddydd Iau 1 Awst wrth i’r Brifysgol groesawu ei chwaer Ann Lawrence a’i ffrindiau mawr Dr Alan a Gretta Upshall.

Wrth siarad mewn derbyniad i ddathlu cysylltiad Dr Lawrence â’r Brifysgol, dywedodd yr Athro Timmis, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:

“Hoffwn i ddiolch o galon am y waddol ryfeddol y mae Rhidian wedi ei gadael i ni. Mae ei gymynrodd at ymchwil ffiseg a phrosiect yr Hen Goleg nid yn unig yn weithred o haelioni rhyfeddol ond hefyd yn brawf o gysylltiad agos Rhidian â Chymru, ei deulu a’i gyn-brifysgol.

“Roedd rhagoriaeth academaidd yn nodwedd o gyfnod Rhidian yma, ac mae’n amlwg bod y gwerthoedd hyn wedi parhau i’w arwain trwy gydol ei yrfa a’i fywyd, a bydd ei waddol yn siŵr o ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar am ei gefnogaeth a’i ymroddiad i sicrhau bod yr addysg drawsnewidiol a dderbyniodd yn hygyrch i eraill a fydd yn hyrwyddo rhagoriaeth barhaus mewn ffiseg yn ein Prifysgol.”

Bu Dr Lawrence yn gefnogwr hirdymor i Brifysgol Aberystwyth, gan gyfrannu at Gylch Rhoi’r Is-Ganghellor er cof am ei frawd Elgan, a fu farw yn 2018 ac a enillodd hefyd radd gyntaf a PhD mewn Ffiseg o Brifysgol Aberystwyth.

Graddiodd ei ffrind Alan, sy’n wreiddiol o Ystrad Rhondda, mewn Botaneg Amaethyddol o Brifysgol Aberystwyth ym 1964 ac mae wedi byw yn Seattle ers deugain mlynedd:

“Mae’n bleser bod yma heddiw i ddathlu haelioni dyngarwch Rhidian o ran addysg. Roedd hi’n bwysig iawn iddo fod ei gymynrodd yn mynd at addysgu to newydd o fyfyrwyr yn Aberystwyth lle bu’n gweithio gyda rhai o’r ffisegwyr gorau ar y pryd a lle y dysgodd ei ffiseg da a chyfarfod gydâ'r holl bobl o safon a fyddai’n dod ymlaen â nhw.”

Fel rhan o’r ymweliad, cyflwynodd Dr Matt Gunn sy’n arwain datblygiad Enfys, y sbectromedr isgoch ar gyfer taith yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd i’r blaned Mawrth, gopi o draethawd doethuriaeth Dr Lawrence “Shock Tube Studies of Gaseous Detonation Waves” i'w chwaer Ann Lawrence.

“Roeddwn i’n falch iawn o fod yma heddiw i gydnabod haelioni Rhidian. Roedd hi hefyd yn braf iawn cael cyfarfod â’i ffrindiau Dr Alan a Gretta Upshall, oedd yn ei adnabod mor dda”, meddai Ann.