Amrywiaeth planhigion ar diroedd sych y byd yn synnu gwyddonwyr
Planhigion de Affrica mewn tiroedd sych
19 Awst 2024
Gwelwyd cynnydd yn amrywiaeth y planhigion mewn ardaloedd sychach o'r byd wrth iddynt addasu i amodau mwy cras, yn ôl astudiaeth newydd sydd wedi synnu gwyddonwyr.
Bu tîm o ymchwilwyr o 27 o wledydd, gan gynnwys arbenigwr o Brifysgol Aberystwyth, yn gweithio am wyth mlynedd yn casglu samplau o gannoedd o leiniau ar draws chwe chyfandir i ganfod sut mae planhigion wedi addasu i’r amgylcheddau eithafol hyn.
Mae 45% o arwyneb tir y Ddaear yn dir sych, ond daw 90% o'r ymchwil presennol ar amrywiaeth planhigion o dir fferm neu hinsoddau tymherus.
Mae'r canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn Nature, yn dangos bod planhigion mewn parthau cras yn mabwysiadu llawer o strategaethau i ymdopi â'r amodau sych, a bod amrywiaeth y strategaethau hyn yn cynyddu po sychaf y mae'n mynd.
Roedd y tîm wedi meddwl y byddai sychder yn lleihau amrywiaeth y planhigion, gan adael dim ond y rhywogaethau hynny a allai oddef prinder dŵr eithafol a straen gwres. Felly, cawsant eu synnu o weld bod y gwrthwyneb yn wir - mae amrywiaeth planhigion yn cynyddu gyda sychder.
Mae'r astudiaeth yn canfod bod ynysu planhigion mewn ardaloedd cras yn lleihau cystadleuaeth rhwng rhywogaethau, gan roi'r rhyddid iddynt ddatblygu amrywiaeth unigryw o ffurfiau a swyddogaethau.
Dywedodd yr Athro Andrew Thomas o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth:
“Mae'n syndod mawr ein bod ni'n gweld mwy o amrywiaeth wrth i'r tir fynd yn sychach. Mae tiroedd sych y byd dan fygythiad difrifol gan gynnydd mewn sychder, pori a diffeithdiro. Felly, mae angen i ni ddeall sut y bydd planhigion yn ymateb i’r pwysau hyn er mwyn rhagweld newidiadau yn y dyfodol.”
“Mae planhigion mewn parthau cras yn arddangos ystod drawiadol o ffurfiau, meintiau a swyddogaethau. Er enghraifft, mae rhai planhigion wedi datblygu lefelau uchel o galsiwm, gan gryfhau cellfuriau i'w hamddiffyn rhag dysychedu. Mae eraill yn cynnwys crynodiadau uchel o halen, gan leihau colli dŵr trwy drydarthiad. Mae’r ffyrdd niferus y mae planhigion yn ymdopi â sychder yn rhyfeddol.”
Canfu'r astudiaeth fod cynnydd sydyn yn amrywiaeth nodweddion planhigion a bod nifer o’r planhigion yn crebachu pan fod llai na 400 milimetr o law mewn blwyddyn.
‘Unigrwydd planhigion’ allai fod yn achosi hyn, wrth iddynt fynd yn fwyfwy ynysig â llai o gystadleuaeth am adnoddau, gan arwain at nodweddion planhigion ac amrywiaeth yn eu swyddogaethau sy’n unigryw yn fyd-eang. Gallai hefyd fod yn arwydd o’u hesblygiad cymhleth a hirfaith, sy’n dyddio’n ôl i’r adeg pan ymsefydlodd planhigion ar y tir fwy na 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Ychwanegodd yr Athro Thomas:
“Mae’r Ddaear yn gartref i amrywiaeth o blanhigion gyda ffurfiau a swyddogaethau hynod amrywiol, ac mae ein hastudiaeth yn taflu goleuni newydd ar ein dealltwriaeth o sut mae planhigion yn ymateb i newidiadau byd-eang cyfredol. Mae'r astudiaeth hon yn ein hatgoffa o bwysigrwydd tiroedd sych fel cronfa fyd-eang o amrywiaeth swyddogaethol mewn planhigion. Mae’n cynnig golwg newydd ar bensaernïaeth planhigion, addasiad planhigion i gynefinoedd eithafol, coloneiddio planhigion hanesyddol mewn amgylcheddau daearol, a gallu planhigion i ymateb i newidiadau byd-eang cyfoes.”