Mythau Celtaidd yn destun trafod yn Aberystwyth

Adeilad Parry Williams

Adeilad Parry Williams

20 Awst 2024

Daw arbenigwyr o bedwar ban ynghyd i drafod mythau Celtaidd hynafol mewn cynhadledd yn Aberystwyth fis nesaf. 

Bydd y gynhadledd a gynhelir gan Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, gyda chyd-weithrediad y Dublin Institute for Advanced Studies, ‘Cymru, Iwerddon a’r Celtiaid’, yn trin a thrafod crefydd a myth Celtaidd o’r Henfyd diweddar a’r berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon yn yr Oesoedd Canol.

Ar 12-13 Medi, bydd y gynhadledd ddeuddydd ‘Myth Celtaidd o’r Henfyd diweddar hyd yr Oesoedd Canol cynnar’, yn edrych ar ddatblygiad syniadau a diwylliannau crefyddol yn y cenhedloedd Celtaidd eu hiaith

Ymysg y siaradwyr gwadd fydd yr Athro Patrick Sims-Williams o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Bernhard Maier o Brifysgol Tübingen, Dr Andy Seaman o Brifysgol Caerdydd a’r Athro Elva Johnson o Goleg y Brifysgol Dulyn.

Yn y digwyddiad, bydd lansiad golygiad newydd o ‘Bonedd y Saint’ gan yr Athro Barry Lewis o’r Dublin Institute, y diweddaraf yng nghyfres y sefydliad o destunau Cymraeg Canol sy’n tystio i bwysigrwydd y cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon.

Ddydd Sadwrn 14 Medi bydd y sylw ar y berthynas rhwng Iwerddon a Chymru yn yr Oesoedd Canol. Eleni yw canmlwyddiant cyhoeddi astudiaeth yr ysgolhaig Wyddelig Cecile O’Rahilly, Ireland and Wales, wedi’i seilio ar draethawd buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol y Barri ym 1920.

Bydd Dr Karen Jankulak o Adran Ieithoedd Modern Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Marged Haycock o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, Dr Llewelyn Hopwood o Brifysgol Caerdydd, a Dr Chantal Kobel a’r Athro Ruairí Ó hUiginn o’r Dublin Institute for Advanced Studies yn pwyso a mesur ei chyfraniad ac yn rhannu gwaith diweddar yn y maes.

Dywedodd Dr Simon Rodway, Uwch Ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd:

“Dyma gyfle i haneswyr, archeolegwyr ac arbenigwyr ar grefydd a llenyddiaeth ystyried o’r newydd gwahanol agweddau ar ddatblygiad syniadau a diwylliannau crefyddol yn y cenhedloedd Celtaidd eu hiaith yn ystod cyfnod dyfodiad Cristnogaeth, ynghyd â’r cysylltiadau rhwng Iwerddon a Chymru ar y pryd.

“Rydym ni’n estyn gwahoddiad i’r rheini sydd â diddordeb mewn Astudiaethau Celtaidd i ymuno â ni ac i gael eu hysbrydoli gan y darlithoedd, trafodaethau, arddangosfeydd llawysgrif, adloniant a chwmnïaeth.”

Mae tocynnau’r gynhadledd ar gael tan 2 Medi yma: https://bit.ly/3AnvtHd

Bydd modd hefyd mynychu’r sesiynau ar lein.

Mae nifer o fwrsariaethau ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig i fynychu’r Gynhadledd - am fanylion pellach cysylltwch â fass@aber.ac.uk.