Cwrs haf yn taro’r nod yn Aberystwyth

Roedd myfyrwyr ar Aber Ar Agor yn gallu dewis pynciau i’w hastudio o restr eang yn ystod y rhaglen breswyl bum niwrnod.

Roedd myfyrwyr ar Aber Ar Agor yn gallu dewis pynciau i’w hastudio o restr eang yn ystod y rhaglen breswyl bum niwrnod.

06 Awst 2024

Mae rhaglen breswyl haf flynyddol Prifysgol Aberystwyth sy’n cynnig rhagflas o fywyd myfyrwyr wedi profi’n boblogaidd iawn unwaith eto eleni.

Roedd pob lle wedi ei gymryd ar Aber Ar Agor, rhaglen bum niwrnod sy'n cyfuno astudio academaidd, ymweliadau addysgol a digwyddiadau cymdeithasol gyda'r nos, gyda hanner cant o fyfyrwyr Blwyddyn 12 yn preswylio ym Mhantycelyn yn ystod mis Gorffennaf.

Cynlluniwyd y rhaglen ar gyfer pobl ifanc sy’n dod o gefndiroedd Ehangu Cyfranogiad ac mae’n cynnig cyfle iddynt ddilyn cyrsiau ym mhob maes academaidd sy’n cael eu cynnig ym Mhrifysgol Aberystwyth, o Wyddoniaeth Filfeddygol a Ffiseg i Wleidyddiaeth Ryngwladol ac Ysgrifennu Creadigol.

Gyda’r dewis o fynychu darlithoedd trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, roedd y cwrs hefyd yn cynnwys sesiwn ar gyllid myfyrwyr a sut i wneud y mwyaf o’r cymorth ariannol sydd ar gael.

Wedi’i ail-lansio yn 2023 yn dilyn toriad oherwydd y pandemig COVID-19, mae Aber Ar Agor yn rhan o ymrwymiad hirsefydlog Prifysgol Aberystwyth i annog pobl ifanc o gefndiroedd sy’n llai tebygol i ystyried astudio mewn prifysgol.

Denodd y rhaglen eleni fyfyrwyr o 25 o ysgolion a cholegau ledled Cymru.

Dywedodd Nia Gwyndaf, Pennaeth Recriwtio Myfyrwyr ac Ehangu Cyfranogiad ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Gall y cam o’r ysgol neu’r coleg i’r brifysgol, ynghyd â symud oddi cartref am y tro cyntaf, fod yn frawychus i lawer o bobl ifanc. Pwrpas Aber Ar Agor yw cynnig profiad academaidd realistig sy'n rhoi syniad i'n myfyrwyr o beth yw bywyd prifysgol a rhoi blas iddynt o'r pynciau amrywiol a gynigiwn yma yn Aberystwyth. Ein gobaith yw y bydd hyn yn eu hysbrydoli i gymryd y cam nesaf i astudio gradd pan ddaw’r amser, boed hynny yn Aberystwyth neu unrhyw brifysgol arall.”

“Rydym wrth ein bodd gyda sut yr aeth y cwrs eleni ac yn ddiolchgar i’n holl gydweithwyr academaidd a llysgenhadon myfyrwyr a gyfrannodd at ei lwyddiant.”

Derbyniodd y myfyrwyr a gwblhaodd y cwrs yn llwyddiannus eleni dystysgrif a chynnig cyd-destunol am le i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2025.

“Dros y blynyddoedd, mae Prifysgol Aberystwyth wedi agor ei drysau i gannoedd o bobl ifanc oedd yn ansicr ynglŷn â mynd i’r brifysgol ac rydw i’n falch bod y gwaith yma’n parhau ar ffurf Aber Ar Agor. Bu’r llynedd, y gyntaf ar ôl y pandemig, yn llwyddiant ac edrychwn ymlaen at groesawu pedwar ar ddeg o fyfyrwyr o’r grŵp hwnnw i’n rhaglenni gradd ym mis Medi. Ein gobaith nawr yw y bydd carfan eleni yn cael eu hysbrydoli i astudio yn y brifysgol ac i elwa o’r breintiau a ddaw o dderbyn gradd Prifysgol Aberystwyth,” ychwanegodd Nia Gwyndaf.

Mae gwybodaeth am raglen Aber Ar Agor ar gael ar-lein a bydd ceisiadau ar gyfer y cwrs nesaf yn agor ym mis Mawrth 2025.