Daeth Maen Allor Côr y Cewri o’r Alban, nid Cymru

Maen yr Allor, a welir yma o dan ddwy garreg 'Sarsen'. Credyd: Yr Athro Nick Pearce, Prifysgol Aberystwyth.

Maen yr Allor, a welir yma o dan ddwy garreg 'Sarsen'. Credyd: Yr Athro Nick Pearce, Prifysgol Aberystwyth.

14 Awst 2024

Daeth y “garreg las” fwyaf sydd yng nghanol Côr y Cewri o ogledd yr Alban, nid Cymru, yn ôl ymchwil newydd.

Dadansoddodd yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Nature, oedran a chemeg mwynau o ddarnau o Faen yr Allor.

Mae’r canfyddiadau yn dangos tebygrwydd nodedig rhwng yr Hen Dywodfaen Coch ym Masin Orcadaidd gogledd ddwyrain yr Alban a Maen Allor Côr y Cewri.

Dechreuwyd adeiladu Côr y Cewri 5000 o flynyddoedd yn ôl, gyda newidiadau ac ychwanegiadau dros y ddau fileniwm nesaf.

Er nad yw’n glir pryd y cyrhaeddodd Maen yr Allor yng Nghôr y Cewri, mae’n bosibl ei bod wedi’i gosod o fewn y bedol ganolog o gerrig byd-enwog yn ystod ail gyfnod yr adeiladu tua 2620 - 2480 CC.

Ers 100 mlynedd credwyd bod Maen yr Allor eiconig, sy’n pwyso chwe thunnell, wedi dod o Gymru.

O ardal Mynyddoedd y Preseli yng ngorllewin Cymru y daeth y mwyafrif o ‘gerrig gleision’ byd-enwog Côr y Cewri a chredir iddynt fod y cerrig cyntaf i’w codi ar y safle yn Swydd Wilton.

Yn draddodiadol, mae Maen yr Allor, tywodfaen, wedi'i chategoreiddio gyda'r cerrig gleision igneaidd eraill, llai yma.

Fodd bynnag, roedd ansicrwydd tan nawr ynghylch tarddiad Maen yr Allor.

Yn ôl ymchwil newydd gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, UCL, Prifysgol Curtin a Phrifysgol Adelaide , mae cyfansoddiad cemegol mwynau penodol ac oedran gronynnau’r mwynau yn y tywodfaen yn awgrymu ei bod yn debygol iawn ei fod wedi dod o ogledd ddwyrain yr Alban.

Defnyddiodd y gwyddonwyr eu dadansoddiad o oedrannau gronynnau y mwynau er mwyn creu ‘olion byseddd’ tarddiad y gronynnau hynny. Roedden nhw’n cyfateb i’r oedrannau sy’n cael eu darganfod yng ngherrig y basn Orcadiaidd yng ngogledd-ddwyrain yr Alban, ac yn gwbl wahanol i gerrig o Gymru.

Dywedodd cyd-awdur yr ymchwil yr Athro Richard Bevins o Brifysgol Aberystwyth:

“Mae'r canfyddiadau hyn yn wirioneddol ryfeddol - maen nhw'n gwrthdroi'r hyn a gredwyd dros y ganrif ddiwethaf. Rydym ni wedi llwyddo i weithio allan, os mynnwch, oedran ac olion bysedd cemegol yr hyn y gallwch chi ei disgrifio fel un o’r cerrig enwocaf yn yr heneb fyd-enwog.

“Mae’n wefreiddiol gwybod bod ein gwaith dadansoddi cemegol a dyddio wedi datgloi’r dirgelwch mawr hwn o’r diwedd. Bellach, gallwn ni ddweud mai Albanaidd ac nid Cymreig yw’r graig eiconig hwn. Er y gallwn ni ddweud cymaint â hynny, ac yn hyderus - bydd pobl yn dal i chwilio o ble yn union yng ngogledd-ddwyrain yr Alban y daeth Maen yr Allor.”

Mae'r darganfyddiad newydd yn awgrymu bod un o'r cerrig enwocaf yn y byd wedi'i symud ymhellach o lawer nag a gredwyd - o leiaf 700 km (435 milltir).

Dywedodd Anthony Clarke o’r Grŵp Amserlenni Systemau Mwynau ym Mhrifysgol Curtin:

“O ystyried cyfyngiadau technolegol y Neolithig, mae ein canfyddiadau’n codi cwestiynau hynod ddiddorol ynghylch sut roedd modd cludo carreg enfawr o’r fath dros y pellter helaeth y mae’r canfyddiadau yn ei awgrymu. O ystyried y rhwystrau mawr ei symud dros y tir ar y ffordd o ogledd-ddwyrain yr Alban i Wastadfaes Caersallog, mae trafnidiaeth forol yn un opsiwn dichonadwy.”

Dywedodd y cyd-awdur, Dr Robert Ixer, daearegwr yn Sefydliad Archaeoleg UCL:

“Mae hwn yn ganlyniad gwirioneddol syfrdanol, ond os yw tectoneg platiau a ffiseg atomig yn gywir, yna o’r Alban mae Maen yr Allor. Mae’r gwaith yn arwain at ddau gwestiwn pwysig: pam a sut yn union y cafodd Maen yr Allor ei gludo o ogledd yr Alban, pellter o fwy na 700 cilometr, i Gôr y Cewri?”

Er nad yw’r ymchwil yn cynnig tystiolaeth uniongyrchol am sut y cyrhaeddodd Maen yr Allor ei lleoliad byd-enwog yn Wiltshire, bydd y datguddiad ei bod wedi teithio cyhyd yn codi cwestiynau am ei daith o ystyried cyfyngiadau technoleg ddynol yn ystod y cyfnod Neolithig.

Ychwanegodd yr Athro Nick Pearce o Brifysgol Aberystwyth:

“Mae’r garreg hon wedi teithio’n bell iawn – o leiaf 700 km – a dyma’r daith hiraf gan gofeb a gofnodwyd yn y cyfnod hwnnw. Mae'r pellter wnaeth e deithio yn rhyfeddol o ystyried hynny. Er nad pwrpas ein hymchwil empirig newydd oedd ateb y cwestiwn o sut y cyrhaeddodd yno, mae yna rwystrau enfawr amlwg i gludo a thaith gynddrwg ar y môr hefyd. Does dim dwywaith bod y ffaith bod y garreg yn dod o’r Alban yn dangos lefel uchel o drefniadaeth gymdeithasol yn Ynysoedd Prydain yn ystod y cyfnod. Bydd gan y canfyddiadau hyn oblygiadau enfawr ar gyfer deall cymunedau yn y cyfnod Neolithig, y graddau yr oedden nhw’n gysylltiedig, a'u systemau trafnidiaeth.

"Gobeithio y bydd pobl yn dechrau edrych ar Faen yr Allor mewn ffordd ychydig yn wahanol o ran sut a phryd y cyrhaeddodd e Gôr y Cewri, ac o ble y daeth. Rwy’n siŵr y bydd hyn yn arwain at rai syniadau newydd am ddatblygiad Côr y Cewri a’i gysylltiadau â Phrydain Neolithig."

Mae’r ymchwil newydd yn adeiladu ar ganfyddiadau a gyhoeddwyd gan ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth ac UCL yn y cyfnodolyn Journal of Archaeological Science: Reports y llynedd a fwriodd amheuaeth dros darddiad Cymreig Maen yr Allor, ac awgrymodd na ddylid ei gategoreiddio fel carreg las.

Cafodd yr astudiaeth hon ei chefnogi gan Gymrodoriaeth Emeritws Ymddiriedolaeth Leverhulme, Amgueddfa Salisbury ac Amgueddfa Cymru ac fe’i hariannwyd gan Brosiect Darganfod Cyngor Ymchwil Awstralia. Roedd yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Curtin, Prifysgol Adelaide, ac UCL.