Cyrsiau ymchwil
Rydyn ni’n cynnig graddau ymchwil yn y rhan fwyaf o brif feysydd y Gyfraith a nifer o bynciau mwy arbenigol. Mae'n bosibl astudio'n amser llawn neu'n rhan-amser.
Mae Adran y Gyfraith a Throseddeg yn awyddus ar bob adeg i groesawu myfyrwyr ymchwil, ac yn ystyried bod eu cyfraniad i'r diwylliant ymchwil yn bwysig iawn.
Rydym yn ymfalchïo yn safon uchel yr arolygiaeth a gaiff y myfyrwyr uwchraddedig. Mae gennym ddiddordeb byw a brwd yn eu cynnydd ac rydym wastad wrth law i roi anogaeth, arweiniad a chyngor.
Rydym yn ymfalchïo yn safon uchel yr arolygiaeth a gaiff y myfyrwyr uwchraddedig. Mae gennym ddiddordeb byw a brwd yn eu cynnydd ac rydym wastad wrth law i roi anogaeth, arweiniad a chyngor.
Yn y blynyddoedd diweddar mae llawer o uwchraddedigion o Adran y Gyfraith a Throseddeg wedi cyhoeddi eu hymchwil ar ffurf llyfrau ac erthyglau, ac rydym yn fwy na pharod i roi cyngor ynglŷn â chyhoeddi. Cafwyd hefyd sawl cyhoeddiad o ganlyniad i brosiectau ymchwil ar y cyd rhwng staff ac uwchraddedigion.
Doethur Athroniaeth, sef Doethuriaeth (PhD)
Meistr mewn Athroniaeth (MPhil)