Emyr Lewis

 Emyr Lewis

Athro

Head of Department - Aberystwyth Law School

Adran Y Gyfraith a Throseddeg

Manylion Cyswllt

Proffil

Penodwyd yr Athro Emyr Lewis i fod yn Bennaeth Adran ym Mis Medi 2019. Cyn hynny, bu'n gyfreithiwr yn un o swyddfeydd cyfreithiol mwyaf Cymru, lle'r oedd yn Uwch Bartner, gan arbenigo mewn Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith fasnachol a chyfreithiau Cymorth y Wladwriaeth a Chaffael Cyhoeddus. Yn y ystod ei gyfnod mewn practis, fe weithiodd hefyd am 12 mlynedd  fel aelod y Deyrnas Gyfunol ar COMEX, Pwyllgor Arbenigwyr Cyngor Ewrop sy'n craffu ar sut mae gwladwriaethau yn cydymffurfio gyda Siarter Ewrop dros Ieithoedd Rhanbarthol a Lleiafrifol, ac fel Uwch Gymrawd Cyfraith Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae wedi rhoi tystiolaeth i Bwyllgorau Seneddau y DG a Chymru am gyfraith datganoli, cyfraith iaith, Cyfraith trehiant datganoledig a hawliau plant. Ma’e Ddirprwy Lywydd Cyngor Cyfraith Cymru ac yn cadeirio ei weithgor Addysga Hyfforddiant. Penodwyd ef yn ddiweddar yn Aelod o’r panel arbenigwyr sy’n cynghori’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Mae'n Gyfreithiwr y Llysoedd Uwch, yn aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Cymru Comisiwn y Gyfraith ac o bwyllgorau llywio Cymru'r Gyfraith a Chyfraith Gyhoeddus Cymru.

Cyhoeddiadau

Lewis, E 2022, Language Rights, Human Rights and the Right to Chat. in W McLeod, R Dunbar, K Jones & J Walsh (eds), Language, Policy and Territory: A Festschrift for Colin H. Williams. Springer Nature, pp. 39-60. 10.1007/978-3-030-94346-2_3
Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil