Emyr Lewis

 Emyr Lewis

Athro

Head of Department - Aberystwyth Law School

Adran Y Gyfraith a Throseddeg

Manylion Cyswllt

Proffil

Penodwyd yr Athro Emyr Lewis i fod yn Bennaeth Adran ym Mis Medi 2019. Cyn hynny, bu'n gyfreithiwr yn un o swyddfeydd cyfreithiol mwyaf Cymru, lle'r oedd yn Uwch Bartner, gan arbenigo mewn Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith fasnachol a chyfreithiau Cymorth y Wladwriaeth a Chaffael Cyhoeddus. Yn y ystod ei gyfnod mewn practis, fe weithiodd hefyd am 12 mlynedd  fel aelod y Deyrnas Gyfunol ar COMEX, Pwyllgor Arbenigwyr Cyngor Ewrop sy'n craffu ar sut mae gwladwriaethau yn cydymffurfio gyda Siarter Ewrop dros Ieithoedd Rhanbarthol a Lleiafrifol, ac fel Uwch Gymrawd Cyfraith Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae wedi rhoi tystiolaeth i Bwyllgorau Seneddau y DG a Chymru am gyfraith datganoli, cyfraith iaith, Cyfraith trehiant datganoledig, etholiadau a hawliau plant. Ef oedd Dirprwy Lywydd cyntaf Cyngor Cyfraith Cymru a bu'n cadeirio ei weithgor Addysg a Hyfforddiant. Bu'n aelod o’r panel arbenigwyr fu'’n cynghori’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Mae'n Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymruac yn Gyfreithiwr y Llysoedd Uwch. Mae hefyd yn fardd sydd wedi ennill Cadair a Choron yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cyhoeddiadau

Lewis, E 2022, Language Rights, Human Rights and the Right to Chat. in W McLeod, R Dunbar, K Jones & J Walsh (eds), Language, Policy and Territory: A Festschrift for Colin H. Williams. Springer Nature, pp. 39-60. 10.1007/978-3-030-94346-2_3
Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil