Llunio gwasanaeth prawf sy’n gwasanaethu pobl Cymru yn well
13 Chwefror 2024
Mae academyddion Troseddeg o Brifysgol Aberystwyth yn cyfrannu at y drafodaeth genedlaethol ynghylch sut y gallai gwasanaeth prawf datganoledig weithio i Gymru.
Prifysgol a Meddygfa Deulu yn cydweithio i gynorthwyo cyn-filwyr
02 Chwefror 2024
Mae prosiect yn y Adran y Gyfraith a Throseddeg, sy'n darparu cyngor cyfreithiol a gwasanaeth cyfeirio rhad ac am ddim i gyn-filwyr a'u teuluoedd yn y DU, wedi mynd i bartneriaeth â meddygfa deulu leol i gynnig cymorth.
Gwobrau rhagoriaeth am effaith ymchwil ar bolisïau byd-eang
25 Hydref 2023
Mae gwaith arloesol gan ddau ymchwilydd ym meysydd bioamrywiaeth fyd-eang a rheoleiddio masnachu mewn pobl wedi cael cydnabyddiaeth arbennig.
Hwb ariannol i brosiect cymorth cyfreithiol i gyn-filwyr
02 Hydref 2023
Mae prosiect sy'n darparu cymorth cyfreithiol yn rhad ac am ddim i gyn-filwyr wedi derbyn rhagor o gyllid gwerth £499,885 dros 3 blynedd oddi wrth Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Prifysgol Aberystwyth yn datblygu meddalwedd i gynorthwyo i drin dioddefwyr trawma
19 Mehefin 2023
Mae academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi arwain prosiect i ddatblygu meddalwedd i gynorthwyo gwahanol sefydliadau i rannu gwybodaeth am gyn-filwyr ac eraill fel nad oes rhaid iddynt drafod eu trawma dro ar ôl tro.
Myfyrwyr y gyfraith yn rhoi dyfarniad o fodlonrwydd
09 Awst 2017
Mae myfyrwyr y Gyraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi rhoi dyfarniad diamwys o blaid eu hastudiaethau mewn arolwg dylanwadol o fyfyrwyr ar draws y DU.
Yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) a gyhoeddwyd ar 9 Awst 2017, roedd 90% o fyfyrwyr Ysgol y Gyfraith Aberystwyth yn cytuno eu bod yn fodlon yn gyffredinol o’i gymharu â’r cyfartaledd ar draws y DU o 84%.
Ddim yn siŵr beth i wneud o fis Medi?
31 Mai 2017
Oes gennych radd israddedig da mewn unrhyw ddisgyblaeth neu brofiad gwaith cyfatebol perthnasol? Yn yr achos hwnnw, efallai y byddwch am ystyried ein rhaglenni uwchraddedig a addysgir mewn hawliau dynol a chyfraith ddyngarol, mewn cyfraith amgylcheddol neu mewn cyfraith fasnachol.
Adran y Gyfraith a Throseddeg Aber yn gosod y bar yn uchel mewn Arolwg Myfyrwyr
10 Awst 2016
Mae myfyrwyr Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi rhoi sgôr ardderchog o 89% i’w phrif gwrs gradd yn Y Gyfraith mewn arolwg DU dylanwadol, sy’n uwch na ffigwr y Deyrnas Unedig o 86%.
Cymdeithas sy'n newid – Cyfraith sy’n newid?
17 Mawrth 2016
Cynhadledd ôl-raddedig dau ddiwrnod i archwilio sut mae'r gyfraith yn ymdopi â newidiadau mewn cymdeithas.
Ail Gynhadledd Lwyddiannus!
06 Medi 2017
Ym mis Mawrth cynhaliodd Cynhadledd Uwchraddedig Ysgol y Gyfraith, Aberystwyth ail gynhadledd lwyddiannus ar gampws Llanbadarn.