Y Brifysgol yn llongyfarch cyn-fyfyriwr ar ei ethol yn Brif Weinidog
Vaughan Gething AS yn annerch digwyddiad Prifysgol Aberystwyth ar Ddeallusrwydd Artifisial yng Nghaerdydd yn 2023.
20 Mawrth 2024
Mae Meri Huws, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth, a’r Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth wedi llongyfarch Vaughan Gething, sy’n raddedig o Aberystwyth, ar ei ethol yn Brif Weinidog.
Graddiodd Vaughan Gething yn y Gyfraith o Brifysgol Aberystwyth ym 1999 a gwasanaethodd fel Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ac fel Llywydd Undeb Genedlaethol Myfyrwyr Cymru.
Cafodd ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (bellach y Senedd Cymru) yn 2011 fel yr aelod dros Dde Caerdydd a Phenarth, a gwasanaethodd yn Llywodraeth Cymru fel y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac yn ddiweddarach, y Gweinidog yr Economi.
Mewn llythyr at y Prif Weinidog, dywedont:
“Mae’n bleser gennym, ar ran Prifysgol Aberystwyth, ddymuno ein llongyfarchiadau cynhesaf i chi ar gael eich ethol i swydd y Prif Weinidog. Fel cyn-fyfyrwyr Aberystwyth ein hunain, gwyddom y bydd eich etholiad yn destun ysbrydoliaeth a balchder mawr i’n myfyrwyr, staff a phawb sy’n gysylltiedig â’r sefydliad hwn. Mae eich ethol fel y person du cyntaf i’r swydd hon yn foment hanesyddol i'r genedl gyfan ei dathlu.
“Yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi bod yn falch o weithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid lleol i gyflawni datblygiadau pwysig. Er enghraifft, ym maes gofal iechyd, rydym wedi sefydlu ein Canolfan Addysg Gofal Iechyd newydd a dwy radd newydd mewn nyrsio. Ym maes iechyd anifeiliaid, sefydlwyd ein Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Twbercwlosis Buchol (CBTB) i Gymru gyda chefnogaeth y Prif Swyddog Milfeddygol ac mae’n gweithio ochr yn ochr â’n Hysgol Gwyddor Filfeddygol newydd, a agorodd yn 2021.
“Wrth edrych ymlaen, rydym yn awyddus i gryfhau ein cenhadaeth ddinesig ymhellach, gan gynnwys cefnogi agenda sgiliau eich llywodraeth.Dymunwn bob llwyddiant i chi yn eich rôl fel Prif Weinidog.”
Vaughan Gething fydd yr ail gyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth i’w ethol i’r rôl. Gwasanaethodd Carwyn Jones, sydd bellach yn Athro yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth, fel Prif Weinidog rhwng 2009 a 2018. Graddiodd yn y Gyfraith o Aberystwyth yn 1988.