Grŵp Ymchwil Technoleg

Mae'r Grŵp Ymchwil Technoleg yn glwstwr ymchwil rhyngddisgyblaethol sy'n astudio effaith technoleg ar gymdeithas o safbwyntiau cyfreithiol a throseddol.

Mae'r grŵp yn dod ag arbenigwyr lleol a rhyngwladol ynghyd i gydweithio, rhannu eu hymchwil a chymryd rhan mewn gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth mewn pwyllgorau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Rydym hefyd yn cyfrannu at ddatblygu polisi ac ymgynghoriadau'r llywodraeth.

Ein nod yw darparu amgylchedd cefnogol i gydweithwyr, ar bob cam o'u gyrfa, drafod a datblygu syniadau ac allbynnau ymchwil arloesol.

Cynullwyr: David Poyton (dvp@aber.ac.uk); Rosemary Toll (rot34@abere.ac.uk) a Megan Talbot (met32@aber.ac.uk).

Mae Adran y Gyfraith a Throseddeg yn croesawu carfan fywiog o fyfyrwyr uwchraddedig ac mae'r Grŵp Ymchwil Technoleg yn croesawu ymholiadau am oruchwyliaeth PhD ar bynciau o fewn y themâu isod.

Cyfleoedd PhD gyda’r Grŵp Ymchwil Technoleg

Rhestrir meysydd posibl ar gyfer ymchwil PhD isod. Cysylltwch ag un o'r cynullwyr yn y lle cyntaf i drafod eich prosiect.

E-fasnach

Economi Llwyfan

Seiber Droseddu

DA a'i effeithiau cyfreithiol

Rheoleiddio technolegau sy'n datblygu

Modelu cysyniadau cyfreithiol

Diogelwch Ar-lein

Fintech

Diogelu defnyddwyr yn yr amgylchedd ar-lein

Prosiectau Comisiwn y Gyfraith a gweithgaredd ar-lein

Contractau Clyfar

Eiddo Digidol

Datrys Anghydfod Ar-lein

Preifatrwydd a Diogelwch Ar-lein