Croeso i Gwasanaethau Gwybodaeth (G.G.) - Myfyrwyr Uwchraddedig
Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu gwasanaethau TG a Llyfrgell i staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn amodol ar Reoliadau a Chanllawiau’r Gwasanaethau Gwybodaeth.
Bydd arnoch angen cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth a Cherdyn Aber i fedru defnyddio ein hadnoddau.
Eich Cyfrif TG
Eich Cerdyn Aber
Canllaw Llyfrgell a TG hanfodol ar gyfer myfyrwyr newydd
I wybod mwy am gyfleusterau Llyfrgell a ThG os gwelwch yn dda gweler ein Canllaw Llyfrgell a TG ar gyfer myfyrwyr newydd
Gwasanaethau i Uwchraddedigion
- Os ydych yn dysgu yn ystod eich ymchwil uwchraddedig mae’n bosib y bydd rhywfaint o’r wybodaeth sydd ar ein tudalen i Staff Academaidd newydd o ddefnydd i chi.
Caffael adnoddau llyfrgell
- Gall uwchraddedigion a ddysgir ac uwchraddedigion ymchwil fenthyg hyd at 40 eitem ar y tro. Dysgwch ragor am y cyfnodau benthyg a’r cynlluniau benthyca.
- Defnyddiwch y ffurflenni Cyflenwi Dogfennau yn Primo i archebu llyfrau, erthyglau neu draethodau o lyfrgelloedd eraill. Dysgwch ragor am Gyflenwi Dogfennau
- Cysylltwch â’ch llyfrgellydd pwnc i drefnu treialon o adnoddau electronig
- Gall uwchraddedigion a ddysgir ac uwchraddedigion ymchwil archebu llyfrau ar gyfer stoc llyfrgell PA drwy’r ymgyrch Mwy o Lyfrau
Gwasanaethau E-ddysgu
- BlackBoard – Amgylchedd Dysgu Rhithwir
- BlackBoard – Cwestiynau Cyffredin
- Nexus – rhannu Arferion Da ar gyfer Addysgu gyda Chymorth Technoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth
- Trello - Gwybodaeth â'r adnoddau diweddaraf ar ddysgu trwy gyfrwng technoleg gydag ein llyfrnodau
- Offer dysgu arbenigol
- Recordio darlithoedd gyda Panopto: ar gael ym mhob ystafell ddysgu a amserlennir yn ganolog
- Fideogynadledda: archebwch un o’r pum ystafell fideo-gynadledda
Primo: chwilio catalog y llyfrgell
Y chwiliad rhagosodedig yw o gatalog llyfrgell Prifysgol Aberystwyth:
- Chwiliwch Primo gan ddefnyddio'r opsiwn Llyfrgelloedd ar ochr dde'r blwch chwilio i ddod o hyd i lyfrau, cyfnodolion, DVD, papurau newydd, traethodau hir a llyfrau prin ym mhob lleoliad Prifysgol Aberystwyth. Dewch o hyd i e-lyfrau ac e-cyfnodolion hefyd.
- Mewngofnodwch gyntaf i gael mwy o adnoddau testun llawn
- Defnyddiwch Fy Nghyfrif Llyfrgell i reoli'ch benthyciadau a'ch ceisiadau
- Edrychwch ar eich Eitemau a gadwyd i weld cofnodion wedi'u storio o eitemau a ddarganfuwyd a chwiliadau wedi'u cadw
- Dewiswch Hanes chwilio i weld eich chwiliadau blaenorol
- Cadwch i fyny â'r wybodaeth ddiweddaraf am gaffaeliadau newydd trwy bori Llyfrau Newydd
Primo: chwilio am erthyglau
- Gellir defnyddio Primo i chwilio am filiynau o erthyglau mewn cyfnodolion a chofnodion cronfa ddata, gyda doleni testun llawn, wedi'u cynaeafu gan gyhoeddwyr sy'n cymryd rhan; wrth chwilio, dewiswch Erthyglau o'r ddewislen ar ochr dde'r blwch chwilio.
- Am wybodaeth ar sut i chwilio am erthyglau gan ddefnyddio Primo, gweler ein CHA.
Primo: dod o hyd i adnoddau electronig
- Cliciwch ar Rhestr E-adnoddau yn Primo i bori trwy ein holl gronfeydd data tanysgrifedig yn ogystal â rhai adnoddau o ansawdd sydd ar gael ar-lein yn rhad ac am ddim
- Cadwch lygad barcud am y botymau @Aber mewn canlyniadau chwilio ar gronfeydd data tanysgrifedig; bydd clicio ar y botwm yn gwirio ein casgliadau e-gyfnodolion i weld os yw’r erthyglau testun cyfan ar gael
Mynediad i e-adnoddau Prifysgol Aberystwyth ar-lein oddi ar y campws
- Dilynwch y cyngor hwn pan fyddwch yn gweithio oddi ar y campws i sicrhau y gallwch ddefnyddio’r e-lyfrau, yr e-gyfnodolion a’r cronfeydd data ar-lein y mae Prifysgol Aberystwyth wedi tanysgrifio iddynt
Mynediad Agored
- Arweiniad a ffurflenni ar gyfer adneuo eich traethawd ymchwil electronig
- Mae’r Brifysgol yn cefnogi darparu mynediad agored i holl gynnyrch ymchwil ei staff yn ogystal â thraethodau ymchwil PhD llwyddiannus drwy’r Porth Ymchwil Aberystwyth
Gwasanaethau hysbysu
- Gallwch nodi meini prawf ar Primo i gael negeseuon i’ch hysbysu pan ddaw stoc i’r llyfrgell sy’n cyfateb i’ch chwiliadau rheolaidd
- Mae llawer o gronfeydd data a chasgliadau cyfnodolion ar-lein yn cynnig gwasanaethau hysbysu. Yn arbennig, mae ZETOC yn eich galluogi i ddarparu chwiliad testun rhydd i gael hysbysiadau am dablau cynnwys o gyfnodolion y mae’r Llyfrgell Brydeinig wedi tanysgrifio iddynt
Meddalwedd rheoli cyfeiriadau
Mae hyfforddiant a chymorth lleol ar gael ar gyfer EndNote pen desk (Windows a Mac) ac EndNote ar-lein, yn ogystal â’r adnodd Dyfyniadau a Llyfryddiaeth (MS Word). Cysylltwch â’ch llyfrgellwyr pwnc.
Hyfforddiant Sgiliau
Yn ogystal â’r Rhaglen Datblygu Ymchwilydd a gydlynir gan Ysgol y Graddedigion, mae dosbarthiadau dewisol ar gael trwy’r Rhaglen Arferion Astudio Uwchraddedig a gynhelir ar brynhawniau dydd Mercher yn ystod y tymor gan Cymorth i Fyfyrwyr a’r Gwasanaethau Gwybodaeth.
Ymholiadau am wybodaeth pwnc a hyfforddiant
Os oes gennych ymholiadau ynglyn â’ch pwnc neu sgiliau gwybodaeth, neu i gael cymorth un-i-un neu hyfforddiant ar gais, cysylltwch â’ch llyfrgellydd pwnc yn uniongyrchol naill ai drwy’r ffôn, e-bost neu sgwrs, neu e-bostiwch llyfrgellwyr@aber.ac.uk.