Clinigau’r Gwasanaethau Gwybodaeth

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu gwasanaeth i helpu defnyddwyr gyda phroblemau gyda defnyddio’r cyfleusterau sydd ar gael. Mae'r gwasanaeth yma ar gael i ddefnyddwyr Prifysgol Aberystwyth (yn amodol ar argaeledd) a drwy apwyntiad yn unig

Sut mae’n gweithio?

  • Gall defnyddwyr wneud apwyntiad i gael cymorth gydag unrhyw ymholiad sydd ganddynt. Noder nad sesiwn a ddysgir yn ffurfiol yw hon ond cyfle i ddefnyddwyr ofyn cwestiynau.
  • Mae’r apwyntiadau ar gael am gyfnod o hanner awr ar y tro, ac mae modd i ddefnyddwyr archebu uchafswm o ddau apwyntiad ar ôl ei gilydd.
  • Fel rheol cynhelir apwyntiadau’r clinig ar ddydd Mawrth, dydd Mercher neu ddydd Iau
  • Mae’n bosibl i fwy nag un defnyddiwr (hyd at uchafswm o dri) ddod i bob apwyntiad os oes ganddynt yr un ymholiad.
  • I bwcio apwyntiad gyda'ch Llyfrgellydd pwnc ewch i Llyfrgellwyr Pwnc.

Ffurflen Archebu