Eich adborth ar fannau astudio yn y Llyfrgell
Ystafelloedd Astudio
Ceir cymysgedd o Ystafelloedd Astudio Grŵp a Charelau Astudio Unigol yn Llyfrgell Hugh Owen
Arolwg Defnyddwyr Carelau Astudio Unigol Arolwg
Anfonwyd arolwg at bawb a oedd wedi archebu i ddefnyddio Carel Astudio Unigol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf
Gofynnon ni: 'Pam ydych yn defnyddio'r carelau?' 'Sut allwn ni wella'r carelau?'
Cwmwl geiriau o'r adborth i'r cwestiwn 'Pam ydych yn defnyddio'r carelau?' yn cynnwys y geiriau sŵn, torria ar draws, grŵp, arholiadau, unigol, sain, cyfrifiadur, gwresogyddion, goleuadau, astudio, darlith
Cwmwl geiriau o'r adborth i'r cwestiwn 'Sut allwn ni wella'r carelau?' yn cynnwys y geiriau bachyn, hygyrch, lliw, bwyd, goleuadau, oer, plygiau, sgrin, dawel, coffi, gwrth-sain
CAMAU GWEITHREDU
- Rydym eisoes wedi ychwangeu ambell lun wedi'i fframio i fywiogi'r carelau a byddwn yn ystyried sut i ychwanegu mwy o luniau a lliw fel rhan o'n gwaith o adnewyddu Lefelau E ac F
- Rydym yn rhoi bachau i gadw eich cotiau a bagiau ym mhob carel
- Rydym yn treialu hybiau monitor mewn rhai carelau ac mewn mannau eraill o amgylch y llyfrgell i gael eich adborth arnyn nhw
- Rydym yn gosod byrddau gwyn yn y carelau i'ch helpu i roi bach o drefn ar eich meddyliau a'ch syniadau
Bydd eich awgrymiadau i gyd yn cael eu hystyried wrth inni gynllunio i adnewyddu Lefelau E ac F Llyfrgell Hugh Owen
Diolch am eich adborth!
Dilynwch ni: Twitter: aberuni_is Facebook: @aberuni.is Instagram: @isaberuni