Cefnogaeth
Mae'r Adran yn ymfalchïo yn ei hymdeimlad o gymuned a'r gefnogaeth y mae'n ei rhoi i Ysgol y Graddedigion. Rydym yn adran, prifysgol a thref glos sy'n gwneud i fyfyrwyr deimlo bod croeso iddynt o'u hymweliad cyntaf.
Cefnogaeth
Cefnogir y myfyrwyr a’r goruchwylwyr gan y Cyfarwyddwr Ymchwil Uwchraddedig, sy'n goruchwylio'r broses arolygu gyda'r bwriad o sicrhau bod y safonau uchaf yn cael eu cynnal a bod materion neu broblemau sy'n codi yn ystod eich astudiaethau yn cael sylw priodol.
Y tu hwnt i gefnogaeth eich goruchwyliwr a'r adran, mae Gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr y Brifysgol hefyd ar gael i ddarparu cymorth ar ystod eang o faterion academaidd a phersonol yn ystod eich cyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Adnoddau
Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn cynnig cymorth i fyfyrwyr sy'n ymgymryd ag ymchwil PhD. Mae pob myfyriwr PhD yn cael gofod swyddfa a rennir a lwfans llungopïo yn ogystal ag adnoddau llyfrgell a Gwasanaethau Gwybodaeth. Mae Aberystwyth hefyd yn gartref i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n llyfrgell hawlfraint.
Datblygu Proffesiynol
Ystyrir datblygiad proffesiynol yn rhan annatod o'r rhaglen PhD.
Bob blwyddyn mae'n rhaid i fyfyrwyr PhD gyflwyno agweddau ar eu hymchwil i'w cyfoedion ac i aelodau o staff. Yn y drydedd flwyddyn mae myfyrwyr PhD yn cyflwyno'r prosiect cyfan i'r Seminar Ymchwil Gwleidyddiaeth Ryngwladol, a fynychir gan y gymuned PhD gyfan a'r holl staff ymchwil ac addysgu. Mae siaradwyr nodedig o'r tu allan i'r Adran hefyd yn cymryd rhan yn y Seminar Ymchwil.
Mae myfyrwyr PhD hefyd yn elwa o gyfres barhaus o weithdai datblygu proffesiynol sy'n mynd i'r afael â materion sy'n amrywio o heriau ysgrifennu ac ymchwil i faterion sy'n ymwneud â chyhoeddi ac ymuno â’r farchnad swyddi. Nod y gweithdai hyn yw sicrhau bod myfyrwyr PhD Aberystwyth yn barod ar gyfer cam nesaf eu gyrfaoedd: yn ddeallusol ac yn broffesiynol.
Yn rhan o'u datblygiad gyrfa, gall myfyrwyr PhD hefyd ddilyn ystod o gyrsiau a hyfforddiant gyda'r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu.