Goruchwyliaeth

Mae’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn cynnig y safon uchaf o oruchwyliaeth PhD o fewn y maes. Caiff pob myfyriwr ddau oruchwylydd - prif oruchwylydd ac ail oruchwylydd.  Mae’r prif oruchwylydd yn cyfarfod â’r myfyriwr bob pythefnos yn ystod y tymor ac yn rheolaidd, er yn llai aml, yn ystod cyfnodau gwyliau. Mae’r ail oruchwylydd yn mynychu’r cyfarfod cyntaf a’r olaf ymhob semester. Mae’r berthynas waith agos iawn sy’n cael ei hyrwyddo gan y drefn hon yn ffactor pwysig wrth esbonio’r niferoedd uchel o fyfyrwyr yr adran sy’n cwblhau’r PhD - mwy na 90% ohonynt.

Ceisir gofalu fod mob myfyriwr PhD yn derbyn yr oruchwyliaeth arbenigol sydd ei angen arno/i er mwyn cwblhau’r prosiect o fewn y cyfnod cofrestru arferol. Y Cyfarwyddwr Astudiaethau Uwchraddedig sydd yn gyfrifol am y trefniadau goruchwylio. Mae’r myfyrwyr a’r goruchwylwyr yn cael eu cefnogi gan y Cyfarwyddwr Astudiaethau Uwchraddedig sydd yn arolygu’r broses oruchwylio er mwyn gwneud yn siŵr fod y safonau uchaf yn cael eu cadw. Defnyddir proses o fonitro ymchwil r er mwyn sicrhau cynnydd o fewn y rhaglen a bod y prosiect yn cael ei gyflawni mewn amser da.