Partneriaeth Hyfforddi Doethuriaethol Cymru ESRC

Myfyrwyr Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol sy'n gweithio mewn gweminar ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, gyda chefnogaeth Partneriaeth Hyfforddi Ddoethurol Cymru ESRC, yn gwahodd ceisiadau ar gyfer astudiaethau PhD wedi eu hariannu. Gelwir yr ysgoloriaethau penodol hyn yn ‘ysgoloriaethau cydweithredol’ sy’n galw am gydweithio gyda sefydliad an-academaidd, a hynny’n aml ar adegau allweddol yn ystod y rhaglen ymchwil. Byddant yn dechrau fis Hydref 2023.

Bydd yr ysgoloriaethau cydweithredol canlynol ar gael: 

Cymru a Threfedigaethedd: Y Gwaddol Diwylliannol a Gwleidyddiaeth Arddangos, Dr Catrin Wyn Edwards (cwe6@aber.ac.uk)

The British Labour movement and campaign for democractic and human righs in Iraq, 1984-2010, Dr James Vaughan

Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr arbennig sy’n meddu ar radd anrhydedd yn y dosbarth cyntaf neu ar frig yr ail ddosbarth, neu radd Meistr berthnasol. Mae’r Brifysgol a Phartneriaeth Cymru ESRC yn rhoi pris uchel ar amrywiaeth a chydraddoldeb ar bob lefel ac am annog ceisiadau o bob rhan o’r gymuned. Croesawir ceisiadau ar gyfer astudio llawn amser a rhan amser, a bydd ysgoloriaethau ar gyfer ‘1+3’ (sef blwyddyn ar gynllun Meistr hyfforddi ymchwil ac yna tair blynedd o astudio llawn amser ar gyfer doethuriaeth, neu’r cyfnod cyfwerth rhan amser), neu ‘+3’ (tair blynedd o astudio doethurol neu’r cyfnod cyfwerth yn rhan amser), a hynny’n dibynnu ar anghenion yr ymgeisydd.

Dylai ymgeiswyr nodi mai dyfarniadau ‘cydweithredol’ yw’r ysgoloriaethau hyn, ac ystyried yn ofalus y teitl gweithredol a’r disgrifiad o’r prosiect sy’n deillio o’r teitl. Mae’n bosibl y byddant am gysylltu â’r aelod staff a enwir er mwyn trafod cyn cyflwyno cais.

Am fanylion pellach ar sut i ymgeisio i astudio doethuriaeth yn Aberystwyth cysylltwch â Dr Jan Ruzicka (jlr@aber.ac.uk), Cyfarwyddwr Astudiaethau i Raddedigion yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 12.00 (canol dydd) ar 1 Mawrth 2023.

Beth fydd yr Ysgoloriaeth yn ei gynnwys?

Mae’r ysgoloriaethau yn cychwyn ym mis Hydref 2023 a byddant yn talu am eich ffioedd dysgu yn ogystal â grant cynhaliaeth (£17,668 y flwyddyn yn 2022/23 ar gyfer myfyrwyr amser llawn, a ddiwedderir bob blwyddyn); ac mae’n cynnwys mynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil ychwanegol, er y gall elfen o’r gronfa hon gael ei ‘chyfuno’ gan alw am geisiadau ar wahân o 2023 ymlaen. Mae cyfleoedd a buddion eraill ar gael i ddeiliaid ysgoloriaeth, gan gynnwys lwfans gwaith maes tramor (os yw'n berthnasol), cyfleoedd ar gyfer interniaethau, ymweliadau sefydliadol tramor a grantiau bach eraill.

Pwy all ymgeisio?

Mae ysgoloriaethau yr ESRC yn hynod gystadleuol, dylai fod gan ymgeiswyr gefndir academaidd rhagorol yn y gwyddorau cymdeithasol, gan feddu ar radd dosbarth 1af neu gryf yn yr 2il ddosbarth uchaf; bydd ceisiadau gan y rhai sydd hefyd â gradd Meistr hyfforddiant ymchwil perthnasol (neu gefndir cyfatebol mewn hyfforddiant ymchwil) yn cael eu hystyried ar gyfer dyfarniad +3. Mae dyfarniadau llawn (ffioedd ynghyd â grant cynhaliaeth) yn agored i fyfyrwyr o’r DU ynghyd â myfyrwyr o’r UE sy'n gallu bodloni gofynion preswylio'r DU. 

1 + 3 NEU +3?

Ac eithrio ysgoloriaethau ym maes Economeg, mae dyfarniadau ar gael naill ai ar sail 1 + 3 neu +3. Mae ysgoloriaeth 1 + 3 yn darparu cyllid am bedair blynedd (neu gyfwerth rhan-amser), gan gwblhau hyfforddiant ymchwil Meistr yn y flwyddyn 1af, ac yna cyllid ymchwil 3 blynedd ar gyfer PhD. Mae ysgoloriaeth +3 yn darparu cyllid ar gyfer yr astudiaeth ymchwil PhD tair blynedd yn unig (neu gyfwerth rhan-amser). 

Asesu

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12.00 (canol dydd) ar 1 Mawrth 2023. Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweliad, a disgwylir iddynt gael eu cynnal ddiwedd 6 Mawrth 2023. Ar ôl cyfweliad, bydd rhestr fer derfynol o ymgeiswyr yn cael ei chyflwyno i banel a gynullwyd gan Grŵp Rheoli DTP ESRC Cymru lle bydd penderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud mewn perthynas â dyfarnu’r ysgoloriaethau Yn y rhan fwyaf o achosion gall ymgeiswyr llwyddiannus ddisgwyl clywed erbyn dechrau Ebrill 2023.

Sut i wneud cais?

Dylid cwblhau a chyflwyno ffurflen gais ar gyfer mynediad i astudiaeth ddoethurol ym Mhrifysgol Aberystwyth erbyn y dyddiad cau o 12.00 (canol dydd) 1 Mawrth 2023. Ni dderbynnir ceisiadau anghyflawn neu geisiadau a fydd yn cyrraedd ar ôl yr amser penodedig hwn.

Rhaid i'r cais gynnwys y dogfennau canlynol: 

1. Llythyr cyflwyniadol: Cyfeiriwch hwn at Dr Jan Ruzicka. Rhaid i'r llythyr enwi'r ysgoloriaeth y gwnaed cais amdani. Rhaid iddo nodi'ch rhesymau a'ch cymhellion dros wneud cais i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, a'r Llwybr Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol; eich dealltwriaeth, a'ch disgwyliadau o astudio ar gyfer doethuriaeth; a'ch diddordebau academaidd yn gyffredinol, ac yn enwedig sut mae'r rhain yn gysylltiedig â'r disgrifiad o'r prosiect dan sylw. Ni ddylai'r llythyr eglurhaol fod yn fwy na dwy dudalen. Nodwch hefyd a ydych am wneud cais ar sail +3 neu 1 + 3.

2. Cymwysterau Academaidd / Proffesiynol: Lle bo hynny'n briodol, dylai hyn hefyd gynnwys prawf o Gymhwysedd Iaith Saesneg (lleiafswm 7.0 IELTS). 

3. Tystlythron: Mae pob cais yn gofyn am gyflwyno dau dystlythyr academaidd i gefnogi. Rhaid i ymgeiswyr fynd at ganolwyr eu hunain a chynnwys y tystlythyrau gyda'u cais.

4. Curriculum Vitae: Ni ddylai hwn fod yn hwy na dwy dudalen.

5. Cynnig Ymchwil: Ar gyfer ysgoloriaethau cydweithredol, dylai'r cynnig adeiladu'n uniongyrchol ar y disgrifiad amlinellol a ddarparwyd. Dylai'r cynnig fod hyd at uchafswm o 1000 o eiriau, heb gynnwys cyfeiriadau llyfryddiaethol. Awgrymwn eich bod yn defnyddio'r pum pennawd canlynol yn eich cynnig ymchwil:

  • Eich myfyrdodau ar deitl, nodau a phwrpas yr ymchwil;
  • Trosolwg o ran o’r llenyddiaeth ymchwil allweddol sy'n berthnasol i'r astudiaeth;
  • Eich cynigion ar gyfer datblygu dyluniad a dulliau'r astudiaeth;
  • Disgrifiad o ganlyniadau posibl y prosiect ar gyfer deall, gwybodaeth, polisi ac arfer (fel sy'n briodol i'r pwnc);
  • Cyfeiriadau llyfryddiaethol