Cloriannu’r berthynas rhwng ymdrechion adfywio iaith a strategaethau datblygu economaidd cyfoes
Fel rhan o’ch cais, bydd disgwyl i chi gyflwyno cynnig ymchwil rhwng 1,000 a 1,500 o eiriau. Disgwylir i’r cynnig ymchwil drafod sut fyddech yn mynd ati i ddatblygu eich prosiect ymchwil ei hun ar sail y syniadau rhagarweiniol a drafodir yn yr amlinelliad. Dylai’r cynnig roi sylw i faterion megis:
- Eich dehongliad o deitl, amcanion ac arwyddocâd y prosiect ymchwil;
- Eich dehongliad o'r cwestiynau ymchwil a sut fyddech am fynd ati i’w hateb;
- Trosolwg gyffredinol o’r llenyddiaeth academaidd berthnasol;
- Eich syniadau ynghylch sut gellid cynllunio’r y prosiect a’r math o ddulliau ymchwil y gellid eu defnyddio fel rhan o’r astudiaeth;
- Disgrifiad o ganlyniadau posibl y prosiect boed o ran dealltwriaeth gwybodaeth academaidd neu o ran polisi ac arfer ymarferol
- Cyfeiriadau
Cyd-destun ymchwil: Mae globaleiddio economaidd wedi cael effaith sylweddol ar gymdeithasau gorllewinol. Bu symudiad oddi wrth economïau cenedlaethol unigol tuag at economi fyd-eang sy’n gynyddol gydgysylltiedig a chyd-ddibynnol, ac mae hyn wedi ysgogi newidiadau sylweddol ym mhatrymau gwaith pobl ac wedi cryfhau safle cyrff trawswladol, yn enwedig corfforaethau amlwladol. Wrth i’r newidiadau economaidd hyn ddigwydd, mae lladmerwyr ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol wedi pwysleisio arwyddocâd y cysylltiad rhwng iaith ac economi yn gyson (Baker 2011; Grenoble and Whaley 2006; Sallabank 2011). Ac eto, mae diffyg eglurder yn dal i fod ynghylch y gwahanol fathau o faterion economaidd sy’n medru dylanwadu ar ragolygon ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol, ac mae hyn yn atal gweithgarwch polisi yn y maes hwn.
Ar un llaw, bu sawl ymdrech gan ymchwilwyr academaidd ac ymarferwyr polisi yn ystod y blynyddoedd diwethaf i astudio i ba raddau y gall ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol ddylanwadu ar berfformiad economaidd (hynny yw, y cysylltiad iaith > economi). Yn y cyd-destun hwn, mae’r pwyslais yn tueddu i fod ar faterion fel a yw’r gallu i siarad iaith benodol yn dylanwadu ar ragolygon gwaith pobl a’u henillion posib, neu a yw defnyddio iaith benodol gan gwmnïau unigol neu mewn sectorau penodol yn dylanwadu ar eu perfformiad economaidd, er enghraifft o ran proffil marchnad neu drosiant blynyddol (e.e. Gazzola a Wickström, 2016, Aldashev a Danzer, 2016, Hogan-Brun, 2017).
Fodd bynnag, hyd yma, ni roddwyd yr un ystyriaeth i’r modd mae prosesau economaidd yn dylanwadu’n benodol ar hyfywedd iaith (hynny yw, y cysylltiad economi > iaith). Er enghraifft, cyfyngedig iawn yw’n dealltwriaeth o sut mae datblygiadau economaidd mewn ardal benodol, neu fentrau cyffredinol sy’n gysylltiedig â strategaethau datblygu economaidd rhanbarthol, yn effeithio ar iaith ranbarthol neu leiafrifol, naill ai o ran nifer y siaradwyr, eu dwysedd daearyddol, neu eu tuedd i ddefnyddio’r iaith. Yn ogystal, mae’n aneglur a yw cynlluniau a strategaethau llywodraethol i hybu datblygiad economaidd yn cydgysylltu â strategaethau swyddogol sy’n ceisio hybu ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol, nau i ba raddau y mae strategaethau datblygu economaidd yn rhoi unrhyw ystyriaeth i’w heffaith bosib (naill ai’n gadarnhaol neu’n negyddol) ar ymdrechion adfywio iaith.
Amcanion: Bydd y prosiect ymchwil hwn yn ymateb i’r bwlch uchod yn y llenyddiaeth academaidd a pholisi cyfredol trwy fynd ati mewn modd systematig i ddadansoddi’r berthynas rhwng ymdrechion adfywio iaith a gwahanol fodelau neu strategaethau datblygu economaidd.
Y bwriad fydd canolbwyntio ar y cwestiwn ymchwil canlynol: Pa fodelau datblygu economaidd sy’n cynnig y sail gorau ar gyfer ymdrechion cyfoes i adfywio ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol? Trwy ymdrin yn fanwl â’r cwestiwn ymchwil hwn bydd y prosiect yn gwneud cyfraniad cysyniadol pwysig wrth fireinio ein dealltwriaeth o natur y gorgyffwrdd rhwng newidiadau economaidd a ffyniant cymunedau iaith. Bydd hefyd yn gwneud cyfraniad empiraidd pwysig trwy gasglu data ynghylch sut mae’r berthynas yma wedi datblygu yng Nghymru, ynghyd a dau achos Ewropeaidd arall.