Cyllid

Cyfleoedd Cyllido PhD i Ddechreuwyr yn 2025

Ysgoloriaethau Cyffredinol DTP Cymru yr ESRC

Mae ysgoloriaethau ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffioedd dysgu, cyflog byw di-dreth blynyddol yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£19,237 ar hyn o bryd) ac mae'n cynnwys mynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil ychwanegol, er y gall elfen o’r gronfa hon gael ei ‘chyfuno’ gan alw am geisiadau ar wahân. Mae cyfleoedd a buddion eraill ar gael i ddeiliaid ysgoloriaeth ymchwil, gan gynnwys lwfans gwaith maes tramor (os yw'n berthnasol), cyfleoedd ar gyfer interniaethau, ymweliadau sefydliadol tramor a grantiau bach eraill.

Am wybodaeth bellach, ewch i'r dudalen we bwrpasol yma.

Partneriaeth Hyfforddi Doethuriaethol Cymru ESRC

Mae’r ysgoloriaethau yn cychwyn ym mis Hydref 2022 a byddant yn talu am eich ffioedd dysgu yn ogystal â grant cynhaliaeth (£ 15,609 y flwyddyn yn 2021/22 ar gyfer myfyrwyr amser llawn, a ddiwedderir bob blwyddyn); ac mae’n cynnwys mynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil ychwanegol, er y gall elfen o’r gronfa hon gael ei ‘chyfuno’ gan alw am geisiadau ar wahân o 2022 ymlaen. Mae cyfleoedd a buddion eraill ar gael i ddeiliaid ysgoloriaeth, gan gynnwys lwfans gwaith maes tramor (os yw'n berthnasol), cyfleoedd ar gyfer interniaethau, ymweliadau sefydliadol tramor a grantiau bach eraill.

Am wybodaeth bellach, ewch i'r dudalen we bwrpasol yma.

Ysgoloriaethau PhD AberDoc

Mae’n bleser gan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol wahodd ceisiadau ar gyfer ysgoloriaethau PhD AberDoc i ddechrau yn 2021.

Bydd y rhai sy’n ennill Ysgoloriaeth AberDoc yn derbyn grant am am hyd at dair blynedd a fydd yn cynnwys eu ffioedd dysgu (hyd at gyfradd y Deyrnas Unedig o £4,407 y flwyddyn*), lwfans cynhaliaeth sydd o ddeutu £15,285 y flwyddyn* a mynediad at gronfa deithio/ymchwil (uchafswm o £500 y flwyddyn*). Bydd yr ysgoloriaethau’n dechrau ym mis Medi 2021.

Byddai’n rhaid i ddeiliaid y dyfarniad o’r UE a thu allan i’r UE dalu’r gwahaniaeth rhwng ffioedd dysgu’r Deyrnas Unedig a ffioedd dysgu i fyfyrwyr o’r UE neu du allan i’r UE o’u hysgoloriaeth. Fodd bynnag bydd 3 Ysgoloriaeth Llywydd ychwanegol ar gael a fyddai’n talu’r gwahaniaeth hwn yn y ffioedd dysgu. Byd yr ysgoloriaethau hyn yn cael eu dyfarnu i’r tri ymgeisydd gorau o’r UE/rhyngwladol yng nghystadleuaeth AberDoc.

Yn ogystal, mae modd i fyfyrwyr ymchwil doethurol yn aml wneud gwaith dysgu. Byddant yn cael eu talu’n unol â’r gyfradd a delir i staff dysgu fesul awr. Mae posibilrwydd o gyfleoedd gwaith cyflogedig eraill hefyd, megis cynorthwyo gwaith ymchwil, marcio, dennu myfyrwyr a gweithgareddau cymorth.

Cysylltwch â Chyfarwyddwr Astudiaethau i Raddedigion, Dr Charalampos Efstathopoulos (che15@aber.ac.uk) gydag unrhyw ymholiadau.

Y dyddiad cau i ymgeisiadau AberDoc i’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yw 31 Ionawr 2022.

Noder mai dyddiad cau penodol i’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yw hwn.

*Mae gwerth y dyfarniad yn amodol ar gadarnhad ar gyfer 2022-2023.

Gwybodaeth bellach ynghylch sut i gyflwyno cais.

Gwybodaeth bellach ynghylch ysgoloriaethau AberDoc.

Partneriaeth Hyfforddi Doethurol AHRC 2017

Prifysgol Aberystwyth yw un o’r partneriaid ym Mhartneriaeth Hyfforddiant Doethurol (DTP) De a Gorllewin Lloegr a Chymru ac mae wedi sicrhau cyllid ar gyfer ysgoloriaethau PhD yn y celfyddydau a’r dyniaethau, gan gynnwys ymchwil Gwleidyddiaeth Ryngwladol sy’n cyd-fynd â nodau’r Bartneriaeth. Bydd myfyrwyr sy’n llwyddo i sicrhau cyllid gan y Bartneriaeth hon hefyd yn gallu manteisio ar oruchwylio ar draws prifysgolion a hyfforddiant arall sydd ar gael mewn mwy nag un brifysgol o fewn y Bartneriaeth.

I gael manylion am sut i ymgeisio am gyllid gan y Bartneriaeth hon ewch i wefan SWW DTP i gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys meysydd pwnc.

Gellir cyflwyno ceisiadau drwy safle SWW DTP.

  • 25 Ionawr 2021 yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am bob ysgoloriaeth ymchwil sy’n cychwyn ym mis Medi 2021.

Mae dyfarniadau’n cwmpasu ffioedd dysgu gwerth 4,407 y flwyddyn (neu swm rhan amser cyfatebol) a grant cynhaliaeth o £15,285 y flwyddyn (neu’r ffigwr cyfwerth rhan amser).

Cysylltwch â Chyfarwyddwr Astudiaethau i Raddedigion, Dr Charalampos Efstathopoulos (che15@aber.ac.uk) gydag unrhyw ymholiadau.

 

Sut i Ymgeisio

Gellir cyflwyno ceisiadau i astudio am PhD ar-lein neu gellir lawrlwytho ac argraffu’r ffurflenni. Gweler Wefan y Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion am fanylion llawn. Hefyd rhaid cyflwyno cynnig ymchwil nad yw’n fwy na 1,500 o eiriau, dau dystlythyr a thrawsgrifiadau academaidd. Nid oes ffurflenni cais ar wahân ar gamau cyntaf cyllido.

Noder bod dyddiadau cau gwahanol ar gyfer y gystadleuaeth AberDoc a’r cystadleuthaeu ESRC ac AHRC. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno cais cyflawn cyn y dyddiad cau.