PhD

 

Byddwch yn rhan o ymchwil arweiniol

Mae'r rhaglen PhD ymysg y rhai mwyaf llwyddiannus yn y byd. Mae myfyrwyr sy'n ymgymryd ag ymchwil PhD yn rhan o ddiwylliant ymchwil enwog yr Adran. Nodir eu llwyddiannau sylweddol mewn nifer o wobrau traethodau ymchwil, gwaith a gyhoeddwyd o ansawdd uchel, a llwyddiant yn y farchnad swyddi.

Fe gafodd yr Adran ei ddyfarni'n 7fed yn gyffredinol ac yn 5ed yn nhermau ymchwil arweiniol (gyda 44% o'r cyflwyniad ymchwil yn cael ei ddyfarni'n flaenllaw a 32% yn rhagorol yn rhyngwladol) (REF 2014). Cefnogir yr ymrwymiad hwn i ragoriaeth ymchwil gan gefnogaeth adrannol a goruchwylwyr ymchwil gorau yn y maes.


Mae grŵp o ysgolheigion a gydnabyddir yn rhyngwladol yn brofiadol wrth oruchwylio ymchwil PhD wreiddiol o sawl maes.

  • Polisi Tramor ac Amddiffyn

  • Gwleidyddiaeth Ewropeaidd a Chymru

  • Theori Cysylltiadau Rhyngwladol

  • Theori Ryngwladol Normadol

  • 'Postcolonialism'

  • Astudiaethau Cudd-wybodaeth

  • Hanes Rhyngwladol

  • Hanes Milwrol

  • Hanes Rhyfel Oer

  • Astudiaethau Diogelwch

  • Astudiaethau Strategol

  • Trydydd Byd

  • Iechyd Byd-eang

Mae'r Adran yn croesawu prosiectau ymchwil PhD sy'n mynd i'r afael ag un neu fwy o'r meysydd yma neu sy'n mabwysiadu ymagwedd ryngddisgyblaethol. Yn yr un modd, rydyn yn croeso brosiectau sy'n herio cartograffeg draddodiadol y ddisgyblaeth trwy ddefnyddio syniadau ac ymagweddau annwylod. I wneud cais am le ar y rhaglen PhD, bydd angen i chi baratoi cynnig ymchwil, llenwch ffurflen gais a darparu dau eirda.

 

Ysgoloriaethau AberDoc

Ysgoloriaethau Cyffredinol DTP Cymru yr ESRC