Cyflogadwyedd

Bydd Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn apelio i'r rheiny sy'n byw bywyd rhyngwladol, a bydd gradd o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yn ddechrau rhagorol i yrfa lwyddiannus.
Tra fyddwch yn astudio gyda ni, fe gewch bob cyfle i ddatblygu ac i ystyried ystod eang o brofiadau yn y gweithle ynghyd ag opsiynau gyrfaol. Bydd ein Gwasanaeth Gyrfaoedd yn gallu eich helpu i adnabod eich cryfderau ac ar ba drywydd yr hoffech chi fynd, ac yn cynnig llawer o gyfleoedd i chi brofi gwaith a chymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau.
Yn rhan o'ch gradd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, cewch hefyd gyfle i gymryd rhan yn ein Cynllun Lleoliadau Seneddol sy'n cynnig cyfle gwych i chi ddod i adnabod byd go iawn gwleidyddiaeth yn ogystal ag ennill profiad gwaith amhrisiadwy a fydd yn sefyll allan ar eich CV.
Mae ein graddedigion ni wedi mynd ymlaen i fyw bywydau proffesiynol hynod lwyddiannus.
Maent yn gweithio ym meysydd:
- gwleidyddiaeth leol a chenedlaethol
- y Swyddfa Dramor
- y Weinyddiaeth Amddiffyn
- mudiadau anllywodraethol
- sefydliadau rhyngwladol
- newyddiaduraeth
- busnes
- dysgu
- y lluoedd arfog.
Mae llawer hefyd yn dewis y Gyfraith, ac mae rhai yn mwynhau'r elfen academaidd gymaint eu bod yn aros ymlaen yn y byd hwnnw ac yn dod yn ysgolheigion amlwg.