Proffiliau Uwchraddedig
Ane Alzola - MA Gwleidyddiaeth Ryngwladol (Arbenigol)
Fe ddes i Aberystwyth am brofiad o naw mis i ddechrau fel myfyriwr cyfnewid israddedig ar gynllun ERASMUS+. Yn ystod y profiad hwn cefais fy synnu gydag ansawdd yr addysgu, y cymorth roedd myfyrwyr yn ei dderbyn gan staff yr adran, a digwyddiadau o’r safon uchaf gyda siaradwyr cydnabyddedig rhyngwladol o fyd gwleidyddiaeth ryngwladol. Mae hyn i gyd yn gwneud i’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol deimlo fel cymuned, teulu mawr. Pan orffennais fy ngradd israddedig yn Sbaen, roeddwn i’n gwybod nad oedd unman gwell i barhau i arbenigo mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol na’r Adran hon.
Yn ystod fy mhrofiad Meistr, anogodd yr holl staff academaidd fi i ymgysylltu’n feirniadol gyda gwleidyddiaeth ryngwladol y tu hwnt i unrhyw beth roeddwn i wedi dychmygu y gallwn i ei wneud. Ymhellach, i fi Aberystwyth oedd y dref berffaith i astudio ynddi, gyda gwarchodfa natur ar y trothwy a gerllaw’r Brifysgol; y lle perffaith i ymlacio. Yn ogystal, er efallai nad Aber yw’r dref fwyaf, mae rhywbeth i’w wneud drwy’r amser: ymuno â chymdeithasau, mynd i’r gampfa, ymweld â chanolfan y celfyddydau a’i harddangosfeydd rhyfeddol, a mwynhau glan y môr.
Mae’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol hon yn unigryw oherwydd y staff o’r safon uchaf ac ansawdd rhagorol eu haddysgu, ei hamgylchedd ac awyrgylch cymunedol Aberystwyth. I fi, does dim unman gwell i astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol nag yn yr Adran hon a’r dref hon.
Nathan Hazlehurst - MA Gwleidyddiaeth Ryngwladol (Hyfforddiant Ymchwil)
Ar ôl astudio yn Aberystwyth yn barod fel myfyriwr israddedig, roeddwn i wrth fy modd pan gefais gynnig lle ar y rhaglen MA. Gan fy mod yn awyddus i wneud PhD yn y dyfodol, dewisais y llwybr hyfforddiant ymchwil, gan fod hwn yn cynnig modiwlau penodol ar sut i gynnal ymchwil, a’r sgiliau y byddai eu hangen arnaf i’w wneud yn effeithiol.
Gan fy mod wedi dewis astudio’r llwybr hyfforddiant ymchwil, roedd rhaid i fi wneud modiwlau o’r tu allan i’r adran, rhywbeth nad oeddwn i wedi’i wneud o’r blaen. Roedd hyn yn fuddiol iawn, gan fy nghyflwyno i fyfyrwyr o ddisgyblaethau eraill, a dod â syniadau newydd i’r blaen nad oeddwn wedi’u hystyried cyn hynny. Er bod rhywfaint o’r gwaith yn heriol (gan ei fod yn gwbl wahanol i unrhyw beth oeddwn i wedi’i astudio ers TGAU), roeddwn yn mwynhau camu i fyny, ac yn gyffredinol roedd y modiwlau ymchwil a gyflwynwyd gan Ysgol y Graddedigion yn uchel eu safon. Hefyd astudiais rai modiwlau ymchwil mewnol, a gyflwynwyd yn wych gan staff blaenllaw.
Roeddwn i’n gallu dewis amrywiaeth o fodiwlau arbenigol oedd yn ehangu ar fy astudiaethau israddedig ac yn herio fy ngwybodaeth flaenorol, gan gyflwyno syniadau newydd a chysyniadau newydd nad oeddwn i wedi’u hystyried o’r blaen. Yn y modiwlau hyn, roedd rhaid i chi ddewis eich testunau traethawd eich hun, gyda rhywfaint o gymorth cychwynnol gan ddarlithwyr. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn dewis pynciau y mae gennych chi ddiddordeb gwirioneddol ynddyn nhw. Rhoddodd y modiwl traethawd hir, a gyflwynwyd drwy’r flwyddyn, y cyfle i fi ffurfio fy nghwestiwn ymchwil yn llawn, cyn rhoi’r gefnogaeth oedd ei hangen arnaf i ysgrifennu’r darn 15,000 gair dros yr haf.
Fel rhan o fy astudiaethau MA, bu’n rhaid i fi fynychu darlithoedd y Seminarau Ymchwil Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Darlithoedd gan ddarlithwyr neu fyfyrwyr PhD blwyddyn olaf yw’r rhain, a chefais gipolwg ar bynciau nad oeddwn i wedi’u hystyried erioed, a hefyd syniad o fywyd myfyriwr ymchwil uwchraddedig. Mwynheais y darlithoedd hyn yn fawr, a dysgu llawer ynddyn nhw.
Ochr yn ochr â fy ngwaith academaidd, cefais fy newis yn un o’r Cynrychiolwyr Academaidd ar y Pwyllgor Ymgynghorol Staff a Graddedigion. Yna ymgeisiais, ac fe’m penodwyd, yn Gynrychiolydd Uwchraddedig fy Athrofa, gan roi llais i’r holl fyfyrwyr uwchraddedig Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Hanes, Daearyddiaeth a Seicoleg. Bûm i’n aelod o bwyllgorau ar draws yr athrofa, a hefyd ar bwyllgor gwaith academaidd Undeb y Myfyrwyr, yn edrych ar bolisi academaidd ar draws y brifysgol.
Y tu allan i’r brifysgol, cefais barhau gyda fy rolau gyda Sant Ioan Cymru a’r Corfflu Hyfforddiant Awyr. Gyda Sant Ioan cefais fy nghydnabod am fy ngwaith drwy gael fy mhenodi’n Oedolyn Ifanc y Flwyddyn yn 2015, gan gynrychioli’r mudiad mewn digwyddiadau cenedlaethol. Yn y Corfflu, fi oedd swyddog hyfforddi fy uned, gan barhau i gefnogi cadetiaid 12-20 oed gyda hyfforddiant a lles.
Allaf i ddim gwneud digon i argymell astudio am radd meistr yn Aberystwyth. Mae’r staff yn wych ac yn sicrhau eich bod yn cael cefnogaeth lawn wrth astudio. Mae’r seminarau’n gadael i chi gael llais a mynegi eich dadleuon, a thrwy ddewis eich pynciau traethawd eich hun cewch gyfle i siapio eich dysgu. Mae’r sgiliau a gefais drwy fy ngradd wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn fy ngyrfa, a byddaf yn dechrau ar PhD rhan amser yn y dyfodol agos.
Alex Magee, MA Llwybr Arbenigol Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Pam ddewisoch chi astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth?
Mae’r adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn fyd-enwog a phob wythnos ceir sgyrsiau gan ddarlithwyr o bedwar ban byd neu gan ddarlithwyr yma yn Aberystwyth.
Sut mae astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn mynd hyd yma?
Gwych. Mae pob modiwl rydw i wedi’i wneud wedi bod yn ddifyr ac wir wedi fy herio i edrych ar wahanol feysydd. Mae’r darlithwyr i gyd yn gyfeillgar a chefnogol iawn. Ceir amrywiaeth o fodiwlau i ddewis o’u plith felly gwnes i rai modiwlau damcaniaethol fel astudiaethau diogelwch beirniadol ac yna rhai modiwlau mwy hanesyddol fel modiwlau gwrth-chwyldroadaeth a chudd-wybodaeth. Gallwch ddewis o’u plith i gyd-fynd â’ch diddordebau sy’n wych. Roedd gweld yr hyn roeddem ni’n ei astudio yn digwydd ar yr un pryd yn y byd real yn ddiddorol dros ben. Astudiais y modiwl 'Critical Security Studies - Contemporary Theories' a oedd mewn un seminar yn edrych sut mae mater (bygythiad) yn cael ei droi’n bwnc diogelwch. Yna manylais ar hyn yn fy nhraethawd ac ymchwilio sut y cafodd y coronafeirws ei droi’n fater diogelwch cenedlaethol drwy weithredoedd llafar. Roedd hyn yn wych gan ei fod yn fater cyfoes y gallwn ei weld yn cael ei droi’n fater diogelwch o ddydd i ddydd gyda lledaeniad y firws ac ymateb y Deyrnas Unedig (DU) iddo.
Byw yn Aberystwyth?
Mae’n lle gwych i fyw, gyda phopeth o fewn pellter cerdded, neu ar y mwyaf 15 munud o waith cerdded i ffwrdd felly does dim angen car o gwbl. Wrth gerdded o gwmpas y dref neu’r brifysgol rydych chi bob amser yn gweld rhywun rydych chi’n ei nabod, ac rwy wrth fy modd gyda hynny! Mantais fawr yn yr haf yw gallu cael barbeciw ar y traeth a gwylio’r machlud!
Cyngor i fyfyrwyr sy’n ystyried astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Os ydych chi’n fodlon darllen llawer o stwff am amrywiaeth o bethau yna dylech chi fod yn iawn. Fy nghyngor olaf yw i beidio â chanolbwyntio ar y cwrs yn unig, mae cymaint mwy gan Aber i’w gynnig, felly ymunwch â chymdeithasau neu glybiau gan eu bod nhw’n rhoi egwyl wych oddi wrth eich astudiaethau academaidd!
Yasmin Pemberton-Brown - MA Gwleidyddiaeth Ryngwladol (Arbenigol)
Pam ddewisoch chi astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth?
Pan oeddwn i’n chwilio am brifysgolion i wneud fy ngradd meistr, roedd fy athro gwyddor wleidyddol yn Edmonton, Canada yn ganmoliaethus iawn am Aberystwyth a’i hadran Gwleidyddiaeth Ryngwladol nodedig. Wrth ymchwilio’r adran, gwnaeth y siaradwyr adnabyddus niferus a wahoddwyd i’r byrddau crwn ac i ddigwyddiadau Gwleidyddiaeth Ryngwladol eraill argraff fawr arnaf i. Hefyd, roedd llawer o’r modiwlau oedd ar gael yn y rhaglen meistr yn dadansoddi materion cyfoes, sydd o ddiddordeb mawr i fi.
Sut mae astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn mynd hyd yma?
Fe fwynheais i astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth yn fawr. Roedd y darlithwyr a’r staff cymorth yn yr adran yn gefnogol iawn ac yn hawdd siarad gyda nhw. Roedd y modiwlau a ddewisais i’n ddifyr ac yn fy annog i archwilio eu cynnwys yn feirniadol.
Yn Aber roeddwn i’n gallu dewis y modiwlau oedd â’r diddordeb a’r perthnasedd mwyaf i fy nodau yn y dyfodol. Roedd y rhain yn cynnwys; Intelligence a Security and Postwar Reconstruction. Y modiwl dewisol “The European Union in Crisis” oedd fy hoff faes ymchwil gan ei fod yn cwmpasu Ewrop yn hanesyddol, yn gyfredol ac yn y dyfodol. At hynny, fe fwynheais i’r darlithoedd, y trafodaethau angerddol, a’r dadleuon ynghylch ymadawiad Prydain â’r Undeb Ewropeaidd (BREXIT).
Byw yn Aberystwyth?
Treuliais i hanner cyntaf y flwyddyn yn byw yn llety uwchraddedig y brifysgol. Oherwydd firws Covid-19, cynghorwyd llawer o fyfyrwyr i ddychwelyd i’w gwledydd brodorol neu astudio gartref. Dewisais i symud i fflat yng nghanol y dref. Rwyf i’n teimlo’n ffodus iawn i fod wedi treulio’r haf yn Aberystwyth yng nghanol tirwedd brydferth, gyda Chefnfor yr Iwerydd a’r traeth o fewn 5 munud o gerdded. Drwy fyw yng nghanol y dref, roedd popeth o fewn 20 munud o gerdded gyda digonedd o lefydd i ymchwilio ac astudio’n dawel. Gan fod Aber yn dref fach, roedd llai o bethau’n tynnu sylw, oedd yn fy ngalluogi i ganolbwyntio ar fy ngwaith academaidd. At hynny, mae byw yn Aber yn fforddiadwy iawn o’i gymharu â llawer o ddinasoedd metropolitan eraill yn y DU. Rwyf i’n argymell Aberystwyth yn gryf am ei harfordir prydferth, garw ac amrywiol, y gymuned glos a’r ymdeimlad diogel bob amser.
Cyngor i fyfyrwyr sy’n ystyried astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Bydd eich blwyddyn yn astudio gradd meistr yn hedfan, felly manteisiwch ar y cyfan sydd gan Aber i’w gynnig, a fyddwch chi ddim yn difaru dewis y lle! Mae’r darlithwyr yn y brifysgol yn groesawgar iawn, felly peidiwch ag oedi cyn cysylltu â nhw am gymorth ac arweiniad ychwanegol. Hefyd, mae gan y brifysgol lawer o weithgareddau allgyrsiol i fyfyrwyr eu mwynhau, yn cynnwys timau chwaraeon a thros 100 o glybiau a chymdeithasau gwahanol.
Er eich bod yma i astudio, fy nghyngor pennaf fyddai manteisio ar gael byw yng Nghymru. Un o’r pethau roeddwn i’n ei garu am fyw yn Aber oedd y gwasanaeth bws am ddim dros y penwythnos oedd yn gadael i fi brofi trefi a dinasoedd gwahanol ar draws Cymru. Hefyd, bob yn ail ddydd Sul ceir marchnad ffermwyr lle gallwch chi brynu cynnyrch ffres sydd wedi’i dyfu’n organig a thrwy hynny gefnogi’r economi leol.
Tina Becker - MA Gwleidyddiaeth Ryngwladol (Arbenigol)
Ar ôl cwblhau fy ngradd israddedig mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol penderfynais aros yn yr Adran ac astudio am radd Meistr. Y prif reswm i mi ddewis gwneud hynny oedd nad oeddwn i’n barod i adael yr adran, y brifysgol na’r dref eto! Ymhellach, mae astudio gradd Meistr yn yr Adran yn cynnig mwy o ryddid yn ein hymchwil ac yn gadael i ni drafod materion mewn llawer mwy o ddyfnder ac o amrywiol safbwyntiau. Mae’r cwrs heb os yn heriol, ac yn galw am reoli amser yn dda: cydbwyso gwaith paratoi ar gyfer seminarau gydag aseiniadau a gwaith ar y traethawd hir, ac ar ben hynny y gwirfoddoli amrywiol rwyf i’n ei wneud gyda’r Brifysgol, Ambiwlans Sant Ioan, ac Amnest Rhyngwladol. Yn olaf, rwy’n dewis aros am fod y staff yn wych yn cynnal cysylltiad a dangos dealltwriaeth, a phob amser yn barod i roi arweiniad gyda’n gwaith os oes angen.
Natalie Speechley, MA Gwleidyddiaeth Ryngwladol (Arbenigol)
Pryd bynnag y byddwch yn siarad am Aberystwyth, yn gyntaf rhaid i chi edmygu’r golygfeydd. I’r breintiedig, mae astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig profiad o dref fach ddarluniaidd gyda digonedd o bersonoliaeth, tref fydd yn cipio eich calon am byth.
Fe ddes i Brifysgol Aberystwyth yn fyfyriwr yn 2016 ac rwyf i wedi cwblhau fy ngradd israddedig a Meistr yn yr adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Penderfynais aros yn y brifysgol i wneud gradd Meistr oherwydd nad oeddwn i’n gallu dychmygu astudio yn unman arall. Nid yw’n bosibl gorbwysleisio caredigrwydd a hwylustod staff yr adran. Maen nhw’n gwneud eu gorau i’ch gwthio chi i gyflawni’r hyn rydych chi’n ei ddymuno ac yn gweithio ato, gan gwrdd â chi yn ystod oriau swyddfa ac ar adegau cyfarfod pwrpasol, ac ateb negeseuon e-bost yn brydlon.
Mae astudio yn yr adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol hefyd yn golygu eich bod yn ymwneud â rhai o’r bobl fwyaf deallus yn ein maes. Prifysgol Aberystwyth oedd â’r adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gyntaf yn y DU (1919) ac mae hyn yn amlwg yn yr addysgu Meistr. Cewch archwilio unrhyw beth sydd ar eich meddwl yn ddwfn. Mae’r adran yn gwthio ei myfyrwyr i feddwl yn fwy dwys am y pynciau maen nhw’n awyddus i fynd i’r afael â nhw, gyda rhyddid i ddewis sut maen nhw’n ateb y cwestiynau oddi fewn i hynny. Mae’n rhyddid sy’n fraint yn y byd academaidd.
Eleni, ac o bosibl yn y blynyddoedd i ddod, roedd myfyrwyr yn wynebu heriau newydd. Roedd rhaid i fi gwblhau fy nhraethawd hir Meistr yn ystod cyfnod clo neu dan gyfyngiadau COVID. Roedd hyn yn anhygoel o heriol. Fodd bynnag roedd yn dda gwybod bod staff yr adran ar fy ochr i ac yn fy nghefnogi drwy’r cyfan. Heb staff rhyfeddol yr adran, yn ddarlithwyr a staff gweinyddol, a’r rheini yn y llyfrgell a chymorth myfyrwyr, ni fyddwn i wedi gallu gorffen fy nhraethawd hir i’r safon rwyf i wedi’i gyflawni.
Byddaf yn fythol ddiolchgar i’r adran ac i’r dref fach, am fy ngwella fel myfyriwr Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ac fel person. Os ydych chi hyd yn oed yn meddwl am astudio gradd Meistr yno rwyf i’n eich annog i ymweld ag Aber a siarad gyda’r staff ac fe welwch pam ei fod yn lle mor arbennig. Diolch, Aberystwyth.