Proffiliau PhD

Sonja Kittelsen

Deilliodd fy mhenderfyniad i astudio PhD yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol o ragoriaeth yr ymchwil a gynhelir yno. Cefais gyllid dan brosiect y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (ERC), ‘Transformation of Global Health Governance: Competing World Views and Crises’, a gynhelir ar y cyd gan y Ganolfan Iechyd a Chysylltiadau Rhyngwladol yn Aberystwyth ac Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain.  O ganlyniad cefais gyfle i astudio gyda grŵp o ysgolheigion oedd â rhan flaenllaw yn ffurfio ymgysylltu academaidd a thrafodaeth yn y maes. Fe wyddwn nad oeddwn am wneud fy ngradd yn unman arall. Mae’r sylw a’r gefnogaeth a roddir i ymgeiswyr PhD yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, a’r gymuned academaidd glos a gaiff ei meithrin yn yr adran, yn gwneud ei rhaglen PhD yn unigryw. Heb os mae hyn wedi fy ngwneud yn well ymchwilydd.


Yn 2014 dewiswyd fy nhraethawd doethurol yn ‘Draethawd Ymchwil PhD Gorau’ gan y Gymdeithas Academaidd er Astudiaethau Ewropeaidd Cyfoes (UACES). Heddiw rwy’n gymrawd ymchwil uwchraddedig Scientia yn gweithio yn rhan o Grŵp Oslo ar Bolisi Iechyd Byd-eang yn y Sefydliad Iechyd a Chymdeithas ym Mhrifysgol Oslo. Fel yr unig berson yn y grŵp sydd â chefndir mewn gwleidyddiaeth ryngwladol, mae fy mhrofiadau a fy hyfforddiant o Aberystwyth wedi bod yn amhrisiadwy yn llywio’r gwaith rwy’n ei wneud ar hyn o bryd.

Jana Wattenberg

Cyrhaeddais yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol fel myfyriwr cyfnewid yn ystod fy ngradd Meistr mewn Astudiaethau Rhyngwladol ac Astudiaethau Heddwch a Gwrthdaro – ac mewn gwirionedd ar ôl hynny wnes i ddim gadael.

I fi, mae’r adran hon yn cynnig y cyfuniad perffaith o heriau deallusol a chymuned gynnes a chefnogol. Yn ystod sgyrsiau gyda myfyrwyr PhD eraill neu ddarlithwyr ac athrawon yn yr adran, caf fy annog yn barhaus i feddwl am fy mhrosiect mewn ffyrdd newydd. Mae cymaint o ysgolheigion gwych yma fel ei bod bron yn amhosibl peidio â chael eich ysbrydoli i ddychmygu ffyrdd newydd o feddwl am eich gwaith. Eto i gyd, nid lle ar gyfer cyfnewid academaidd yn unig yw hwn, mae hefyd yn gymuned. Ar sawl achlysur cefais gyngor gwych ar fy mhrosiect a’r heriau o weithio at yrfa yn y byd academaidd gan gyd-fyfyrwyr PhD, darlithwyr a staff - allwn i ddim dychmygu unman gwell i wneud PhD.