Sylfaen gadarn: myfyrwraig IBERS yn graddio ym Mioleg y Môr a Dŵr Croyw gydag anrhydedd Dosbarth Cyntaf

Anouk Milewski

Anouk Milewski

21 Gorffennaf 2017

Mae'r fyfyrwraig Anouk Milewski, sy'n graddio o IBERS gyda BSc (Anrh) ym Mioleg y Môr a Dŵr Croyw yr wythnos hon, yn esbonio sut roedd ei blwyddyn sylfaen wedi'i helpu i ennill gradd Dosbarth Cyntaf.

Mae Anouk yn hanu o'r Unol Daleithiau, ac mae wedi byw yn Ffrainc yn ogystal â Phrydain; doedd hi ddim wedi gwneud y cymwysterau gwyddonol angenrheidiol i allu cychwyn yn syth ar radd dair-blynedd yn y gwyddorau. Felly penderfynodd ddechrau ei haddysg uwch drwy gymryd y cwrs BSc Gwyddorau Bywyd, sy'n cynnwys blwyddyn sylfaen.

Dywedodd Anouk, “Yn ystod y flwyddyn sylfaen fe ddysgais hanfodion bioleg ac wedyn roeddwn i'n gallu symud ymlaen i'r cwrs tair-blynedd ym Mioleg y Môr a Dŵr Croyw”.

Dywedodd y Dr Pippa Moore, Darllenydd a Chydlynydd Cynllun BSc (Anrh) Bioleg y Môr a Dŵr Croyw yn IBERS, “A hithau heb astudio'r gwyddorau o'r blaen, roedd y cwrs Gwyddorau Bywyd yn fan cychwyn delfrydol i Anouk. Roedd hi'n gwneud yn eithriadol o dda drwy gydol ei hastudiaethau, ac rwy'n hollol ffyddiog y bydd hi'n dal i wneud yn rhagorol, beth bynnag a wnaiff hi yn ei gyrfa”.

Dywedodd Anouk, “Roedd y radd yn hynod ddiddorol ac roedd y newid o'r flwyddyn sylfaenol i'r radd dair-blynedd yn hollol rwydd, diolch i'r cymorth helaeth a gefais gan bob un o'm darlithwyr”.

Y rhywogaeth Sacculina Carcini oedd testun traethawd hir Anouk. Mae'r rhywogaeth honno'n perthyn i'r gragen long ac mae'n barasit ar grancod, yn troi'r rhai gwrywaidd yn fenywaidd. Mae hyn wedi arwain ei diddordeb tuag at faes parasitoleg, ac mae ei nod yn y pen draw yw astudio am Ddoethuriaeth ac anelu at yrfa fel ymchwilydd.