Rhannu gwybodaeth am wyddoniaeth: myfyrwyr IBERS yn rhoi’r gair ar led am glefydau heintus

04 Gorffennaf 2017

Mae israddedigion yn eu hail flwyddyn yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn gwneud ffilmiau dogfen am nifer o glefydau heintus yn rhan o’u hasesiad cwrs.

Ymchwilwyr o Aberystwyth yn trefnu cynhadledd ar amaethyddiaeth gynaliadwy yn Nigeria

04 Gorffennaf 2017

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi trefnu cynhadledd arloesol ar ddatblygu amaethyddiaeth gynaliadwy yn Nigeria, gyda'r nod o arwain at fanteision economaidd a chymdeithasol yn y sector.

Prifysgol Aberystwyth yn enwi Cymrodyr newydd

07 Gorffennaf 2017

Mae chwaraewraig rygbi ryngwladol, hanesydd, Prif Swyddog Gweithredol, ymgyrchydd iaith, a bridiwr glaswellt ymhlith y rhai gaiff eu hanrhydeddu yn ystod y seremonïau graddio eleni ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cychod ymchwil morol newydd i’r Brifysgol

12 Gorffennaf 2017

Mae dau gwch ymchwil morol newydd sbon yn cael eu lansio gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd newydd.

Cyfuno'r gwaith a gradd, mae Jac Hughes, sy'n graddio o IBERS mewn Amaeth, yn gwneud iddo edrych yn hawdd.

18 Gorffennaf 2017

Gweithiodd Jac Hughes yn rhan-amser drwy gydol ei astudiaethau, a'r wythnos hon fe fydd yn graddio â BSc 2:1 mewn Gwyddor Anifeiliaid ac Amaethyddiaeth o Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), Prifysgol Aberystwyth.

Gradd er Anrhydedd i fridiwr glaswellt

19 Gorffennaf 2017

Cyflwynwyd Gradd Baglor er Anrhydedd yn y Gwyddorau i Alan Lovatt, Uwch-fridiwr Glaswellt yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth mewn cydnabyddiaeth o’i wasanaeth hir a’i gyfraniad i’r Brifysgol.

Dyfodol disglair: Myfyrwraig Israddedig Microbioleg, Sinmidele Ayodeji, yn cyfrannu at bapur cyhoeddedig

21 Gorffennaf 2017

A hithau wedi cyfrannu at bapur cyhoeddedig fel myfyrwraig israddedig ym maes Microbioleg yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae'r fyfyrwraig ryngwladol Sinmidele Ayodeji, yn graddio â BSc 2:1 mewn Microbioleg gyda dyfodol disglair o'i blaen.

Sylfaen gadarn: myfyrwraig IBERS yn graddio ym Mioleg y Môr a Dŵr Croyw gydag anrhydedd Dosbarth Cyntaf

21 Gorffennaf 2017

Mae'r fyfyrwraig Anouk Milewski, sy'n graddio o IBERS gyda BSc (Anrh) ym Mioleg y Môr a Dŵr Croyw yr wythnos hon, yn esbonio sut roedd ei blwyddyn sylfaen wedi'i helpu i ennill gradd Dosbarth Cyntaf.

Arferion monitro newydd llyngyr ceffylau ar gyfer yr 21ain ganrif

24 Gorffennaf 2017

Mae gwyddonwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig wedi dilysu datblygu arf asesu parasit o bell newydd i brofi ceffylau ar gyfer heintiau llyngyr.

Bridiau newydd o feillion coch yn rhoi'r dewis i ffermwyr allu tyfu eu protein ar y fferm yn lle ei brynu

25 Gorffennaf 2017

Mae datblygiadau sy'n gwneud meillion coch yn wytnach ac yn fwy abl i wrthsefyll clefydau yn esbonio pam mae'r cnwd uchel ei brotein hwn yn cael ei ddefnyddio'n fwyfwy gan fusnesau da byw ym Mhrydain, yn ôl yr Athro Athole Marshall, Pennaeth Bridio Planhigion IBERS.

Bridwyr glaswellt Cymru yn cynhyrchu mathau blaenllaw sy’n cael effaith sylweddol yn fyd-eang

25 Gorffennaf 2017

Mae bridwyr glaswellt o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) unwaith eto wedi cynhyrchu mathau sydd ar frig y rhestrau cymeradwy swyddogol diweddaraf, sef dau fath newydd o rygwellt uchel eu siwgr. 

Cyfleusterau milfeddygol newydd gwerth £4.2 miliwn gyda chefnogaeth yr UE yn Aberystwyth

24 Gorffennaf 2017

Lesley Griffiths, yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer datblygu hyb milfeddygol newydd sbon gwerth £4.2 miliwn ym Mhrifysgol Aberystwyth i hyrwyddo ymchwil i ddiogelu iechyd dynol ac anifeiliaid.