Cyfuno'r gwaith a gradd, mae Jac Hughes, sy'n graddio o IBERS mewn Amaeth, yn gwneud iddo edrych yn hawdd.
Jac Hughes
18 Gorffennaf 2017
Gweithiodd Jac Hughes yn rhan-amser drwy gydol ei astudiaethau, a'r wythnos hon fe fydd yn graddio â BSc 2:1 mewn Gwyddor Anifeiliaid ac Amaethyddiaeth o Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), Prifysgol Aberystwyth.
Cafodd Jac ei fagu ar fferm laeth a da byw ei rieni yn y Waun ger Wrecsam yn y gogledd. Eglura, “rwyf wastad wedi gwybod fy mod am gael gyrfa yn y diwydiant amaeth, felly pan gynigiodd landlord fy rhieni swydd i mi yn cynorthwyo â rheoli’r fenter dda byw ar ei fferm ddefaid a chig eidion gyfagos, derbyniais y cynnig yn eiddgar gan wybod y byddwn yn derbyn profiad gwaith gwerthfawr a fyddai'n cyd-fynd yn dda â'm hastudiaethau ac yn helpu i weithio tuag at fy ngyrfa o ddewis”.
Dywedodd Guy Middleton, perchenog y busnes ffermio ble mae Jac yn gweithio, “Rydym yn falch iawn o gael cefnogi Jac ar ei lwybr gyrfaol, ac mae’r gwaith mae wedi ei wneud inni rhwng ei astudiaethau academaidd o’r safon uchaf o ystyried ei oedran.”
Roedd cwrs Jac yn cynnwys blwyddyn mewn diwydiant, ac felly yn ystod y cyfnod hwn fe weithiodd ar y fferm yn llawn-amser; “Roedd y flwyddyn mewn diwydiant yn golygu i mi allu buddsoddi mwy o fy amser yn nhwf y busnes ac fe roddodd gyfle i mi roi’r wybodaeth a’r sgiliau roeddwn wedi eu dysgu trwy fy astudiaethau ar waith”.
Mae’n ymddangos bod y gwaith caled wedi talu’r ffordd a bod y busnes wedi ffynnu ers i Jac ddod yn rhan ohono, ac mae ganddo bellach 700 o famogiaid a 50 o wartheg sugno. Mae Jac bellach yn gyfrifol am dyfu menter da byw'r busnes, ac fe fydd y gwaith hwnnw yn dod yn swydd lawn-amser iddo ar ôl iddo radio.
Dywed Dr Iwan Owen, darlithydd Amaethyddiaeth yn IBERS, “O’r cychwyn cyntaf, daeth i’r amlwg bod Jac yn unigolyn galluog sydd yn gweithio’n galed ac sydd â ffocws cadarn ar amaethyddiaeth ac agwedd benderfynol tuag at sefydlu gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant. Trwy gydol ei astudiaethau mae wedi perfformio’n arbennig yn academaidd, ac ar yr un pryd mae wedi gosod seiliau i'w yrfa yn y dyfodol. Does dim amheuaeth gennyf y bydd yn cyfuno'r hyn mae wedi ei ddysgu yn ystod ei gyfnod yn y brifysgol â’i brofiad ymarferol sylweddol ac y bydd yn gadael ei farc ar y diwydiant.”