Rhannu gwybodaeth am wyddoniaeth: myfyrwyr IBERS yn rhoi’r gair ar led am glefydau heintus

Y myfyrwyr a wnaeth y ffilm ddogfen fuddugol: Eleanor Furness, Melanie Morris, Annie Morris, Rhys Jones, Amanda Hather a Michael Allcock.

Y myfyrwyr a wnaeth y ffilm ddogfen fuddugol: Eleanor Furness, Melanie Morris, Annie Morris, Rhys Jones, Amanda Hather a Michael Allcock.

04 Gorffennaf 2017

Mae israddedigion yn eu hail flwyddyn yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn gwneud ffilmiau dogfen am nifer o glefydau heintus yn rhan o’u hasesiad cwrs.

Roedd y prosiect yn rhan o’r asesiad ar gyfer modiwl yr ail flwyddyn ‘Clefydau Heintus’ sy’n cael ei gynnal gan Dr Justin Pachebat, Uwch Ddarlithydd mewn Genomeg Ficrobaidd yn IBERS.

Gweithiodd y myfyrwyr mewn grwpiau i gyflwyno gwybodaeth wyddonol fanwl ynghylch clefyd o’u dewis drwy gyfrwng ffilm ddogfen, ar gyfer cynulleidfa o swyddogion y llywodraeth neu weithwyr gwyddonol proffesiynol.

Roedd y ffilmiau eleni’n trafod amryw o glefydau heintus o glefyd Lyme i firws Ebola, y clywsom gymaint amdano yn y wasg dros y blynyddoedd diwethaf.

Yn ogystal â chael eu hasesu gan Dr Pachebat, cafodd pob un o’r ffilmiau eu marcio gan weddill y dosbarth ac roedd cyfle i’r myfyrwyr i enwebu eu hoff ffilmiau. Dywedodd Dr Pachebat, “Mae’r prosiect hwn yn gyfle i’r myfyrwyr i ddysgu am ymchwil eu cyd-fyfyrwyr ac ar yr un pryd mae’n rhoi profiad gwerthfawr iddynt o gyfleu gwybodaeth am wyddoniaeth i eraill, sy’n sgil amhrisiadwy mewn astudiaethau uwchraddedig neu ym myd gwaith.”

Y myfyrwyr yn y grŵp a gynhyrchodd y ffilm fuddugol roedd Eleanor Furness, Melanie Morris, Annie Morris, Rhys Jones, Amanda Hather a Michael Allcock.

Testun eu ffilm ‘Prokaryotes’ oedd ‘Arch Gonorea’, cainc o’r clefyd sydd wedi datblygu ymwrthedd i wrthfiotigau ac sydd o’r herwydd yn amhosib ei drin mewn rhai achosion. Eglurodd Eleanor, sy’n aelod o’r grŵp, “Dyw heintiau a drosglwyddir yn rhywiol ddim yn cael eu trafod yn agored ac fe ddewison ni wneud ffilm am y clefyd hwn er mwyn codi ymwybyddiaeth.” Mae Eleanor, sy’n astudio Microbioleg, yn dweud bod y cwrs yn gyffredinol “yn fendigedig o heriol, a’r staff yn hynod gefnogol”.

Enillodd pob un o’r myfyrwyr yn y tîm buddugol dalebau i sinema Canolfan y Celfyddydau yn wobr, a chyflwynwyd y talebau iddynt gan Dr Pachebat.