Prifysgol Aberystwyth yn parhau i ddringo’r tablau cynghrair
26 Ebrill 2017
Mae cynnydd Prifysgol Aberystwyth mewn tablau cynghrair prifysgolion yn parhau yn sgil cyhoeddi The Complete University Guide 2018.
Yn ôl y tabl cynghrair diweddaraf, mae Aberystwyth wedi dringo 19 safle, sef y cynnydd mwyaf yng Nghymru ac un o’r pedwar gorau yn y DU.
Yn ôl cyhoeddwyr The Complete University Guide mae’r cynnydd yn deillio o “welliannau trawiadol yn sgoriau’r brifysgol ar gyfer Bodlonrwydd Myfyrwyr, Rhagolygon Graddedigion, Cymhareb Myfyrwyr-Staff a Gwariant ar Wasanaethau Academaidd.”
Mae mwy o newyddion da i Aberystwyth yn The Complete University Guide a gyhoeddwyd ddydd Mercher 26 Ebrill 2017.
Mae dau o’r 27 pwnc mae’r Brifysgol yn eu cynnig yn ymddangos yn y Deg Uchaf yn y DU, sef Amaethyddiaeth ac Astudiaethau Celtaidd.
Yn Awst 2016 dathlodd Prifysgol Aberystwyth ei pherfformiad gorau erioed yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (ACM) gyda bodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr o 92%.
Roedd Aberystwyth ar y brig yng Nghymru ac yn bedwaredd orau o blith prifysgolion eang eu darpariaeth y DU, yn ôl ACM 2016.
Ym mis Medi 2016, llamodd Aberystwyth 23 safle yn nhabl cynghrair The Times and Sunday Times Good University Guide, gan gyrraedd y 10fed safle yn y DU am ragoriaeth dysgu a’r 19eg safle am brofiad myfyrwyr, yn yr hyn a ddisgrifiwyd gan y cyhoeddiad fel "trawsnewidiad rhyfeddol ers 2015".
Ac yng Ngwobrau What Uni 2017 roedd Aberystwyth ymhlith y Deg Uchaf yn y DU o ran Prifysgol y Flwyddyn, Llety, Cyrsiau a Darlithwyr, Rhyngwladol ac Olraddedig.
Dywedodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor â chyfrifoldeb am Brofiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rydym yn falch iawn o weld cynnydd Aberystwyth yn y nhablau cynghrair y prifysgolion yn parhau, ac mae rhifyn diweddara’rComplete University Guide yn dystiolaeth bellach bod Aberystwyth yn lle eithriadol i ddysgu a byw. Yr hyn sy’n gyrru ein llwyddiant yw ansawdd ein haddysgu, ymchwil o safon byd-eang, ein pwyslais ar gyflogadwyedd a’n lefelau uchel o fodlonrwydd myfyrwyr. Mae'r tablau cynghrair diweddaraf hefyd yn dystiolaeth o waith caled ein staff ymroddedig sy’n darparu addysg ragorol sy’n cael ei arwain gan ymchwil yma yn Aber, uchelgais ein myfyrwyr a buddsoddiad y Brifysgol mewn adnoddau newydd.”
Mae The Complete University Guide yn defnyddio deg ffon fesur: Bodlonrwydd Myfyrwyr, Ansawdd Ymchwil, Dwyster Ymchwil, Safonau Mynediad, Cymhareb Myfyrwyr-Staff, Gwariant ar Wasanaethau Academaidd, Gwariant ar Gyfleusterau Myfyrwyr, Graddau Anrhydedd Da, Rhagolygon Graddedigion, a Chwblhau Gradd, ac mae’n defnyddio data gan 129 o sefydliadau.
Mae tablau pwnc unigol yn seiliedig ar bum elfen; Bodlonrwydd Myfyrwyr, Ansawdd Ymchwil, Dwyster Ymchwil, Safonau Mynediad a Rhagolygon Graddedigion, ac yn cynnwys 143 o brifysgolion, colegau prifysgol a sefydliadau addysg uwch arbenigol.
Mae rhagor o wybodaeth am The Complete University Guide 2018 ar gael ar-lein https://www.thecompleteuniversityguide.co.uk/.