Cyrsiau newydd yn IBERS ar gyfer 2017

25 Ebrill 2017

Mae dau gynllun gradd israddedig newydd sbon mewn Bioleg Dynol ac Iechyd, a Chadwraeth Natur wedi cael eu lansio gan Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd y cwrs BSc Bioleg ac Iechyd Dynol yn adeiladu ar yr agweddau iechyd dynol o astudiaethau biolegol sydd eisoes ar gael yn IBERS.

Mae'r cwrs newydd yn cynnig ddealltwriaeth eang o ddisgyblaethau biolegol er mwyn arfogi myfyrwyr gyda'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i ddilyn gyrfa flaengar o ran datblygiadau mewn meddygaeth, maetheg a gwyddor chwaraeon.

Bydd myfyrwyr yn canolbwyntio ar yr agweddau o fioleg sy'n fwyaf perthnasol i'n rhywogaeth ein hunain; gan gynnwys geneteg, ffisioleg, bioleg celloedd a anatomeg; a bydd hefyd yn datblygu gwerthfawrogiad o sut mae'r corff yn ymateb mewn cyflwr iach ac mewn afiechyd.

"Mae'r cwrs BSc israddedig newydd cyffrous yma yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd am yrfa sy'n canolbwyntio ar wella iechyd a lles pobl," meddai Dr Daniel Low, Darlithydd mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff a chydlynydd cynllun y cwrs newydd.

Mae'r cwrs BSc Cadwraeth Bywyd Gwyllt yn darparu hyfforddiant cynhwysfawr yn y gwyddorau naturiol i fyfyrwyr yn ogystal รข'r agweddau dynol o gadwraeth drwy eu galluogi i archwilio'r wybodaeth wyddonol cefndirol, a chysyniadau ecolegol cymhwyso i gadwraeth planhigion dan fygythiad, ffawna a chynefinoedd.

Esboniodd Dr Jim Provan, Darllenydd mewn Gwyddorau Biolegol, a chydlynydd y Cynllun BSc Cadwraeth Bywyd Gwyllt yn IBERS "Bydd myfyrwyr yn ennill gwybodaeth eang o'r cysyniadau sylfaenol allweddol sy'n berthnasol fioleg cadwraeth megis esblygiad ac amrywiaeth organebau; cynefinoedd ac ecosystemau ac agweddau perthnasol polisi a rheoli."

Dywedodd Yr Athro Mike Gooding Cyfarwyddwr IBERS, "Mae'r cynlluniau newydd yma yn adlewyrchu angen cynyddol i fynd i'r afael â heriau amgylcheddol, esblygol a chymdeithasol.

Mewn cyfnod o newid byd-eang, mae’r angen i warchod bioamrywiaeth yn awr yn holl bwysig i ymchwil a pholisi. Yn yr un modd, mae bioleg dynol yn hanfodol i ddatblygiadau mewn meddygaeth, iechyd a lles. "

Bydd y ddau gwrs newydd yn galluogi myfyrwyr i ddefnyddio  arbenigedd a gweithgaredd ymchwil helaeth gan staff o fewn IBERS i archwilio’r meysydd hanfodol yma."

Bydd y cyrsiau yn rhedeg o fis Medi 2017 ymlaen, yn agored yn awr ar gyfer ceisiadau, ac ar gael fel opsiynau o 3 blynedd neu 4 blynedd (gyda blwyddyn integredig mewn a fydd yn rhoi hwb ychwanegol ar gyfer y dyfodol.