Gwyddonwyr o IBERS yn arwain adfywiad meillion coch
Dr Leif Skøt (ar y dde) a’r tîm yn IBERS
30 Tachwedd 2015
Mae gwyddonwyr yn IBERS Prifysgol Aberystwyth (Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig) a TGAC (Canolfan Dadansoddi Genom) yn Norwich wedi trefnu a chysodi genom y feillionen goch.
Cyhoeddir astudiaeth â’r pennawd: "Red clover (Trifolium pratense L.) draft genome provides a platform for trait improvement" heddiw yn Scientific Reports, cyfnodolyn y grŵp cyhoeddi Nature.
Mae hon yn garreg filltir wyddonol bwysig i amaethyddiaeth, gan y bydd yn galluogi bridwyr planhigion i ddatblygu mathau newydd o feillion coch sy'n addas ar gyfer ffermio cynaliadwy mewn amgylchedd heriol a newidiol.
Meddai'r prif awdur, Dr Leif Skøt sy'n arwain y prosiect yn IBERS: “Y nod yw i'r wybodaeth hon gael ei bwydo i mewn i'n rhaglen barhaus o fridio meillion coch er mwyn cyflymu'r broses o wella parhad a goddefgarwch i bori, tra'n cynnal cynnyrch biomas uchel y mae meillion coch yn adnabyddus amdano.
“Rydym yn cyfuno arbenigedd ein sefydliadau er mwyn datrys sylfaen genetig pensaernïaeth y meillion coch. Mae'r cydweithio yn atgyfnerthu arweinyddiaeth y DG wrth gyfieithu gwaith o ddatblygu adnoddau genetig a genomig trwy wyddoniaeth sylfaenol i ddefnydd ymarferol sy'n cael effaith bosibl ar yr economi yn lleol ac yn genedlaethol.”
Mae codlysiau porthiant, a meillion yn arbennig, yn elfennau allweddol o amaethyddiaeth da byw mwy cynaliadwy, gan y bydd eu defnydd yn lleihau'r angen am wrtaith nitrogen diwydiannol, a hefyd yn darparu ffynhonnell o brotein ar gyfer bwyd anifeiliaid sydd yn cael ei dyfu gartref.
Hyd nes y 1960au bu’r defnydd o’r codlysiau hyn yn hanfodol i gynnal ffrwythlondeb y pridd mewn cylchdroadau cnydau. Ers hynny mae eu defnydd wedi gostwng yn bennaf o ganlyniad i argaeledd rhad gwrtaith nitrogen diwydiannol.
Fodd bynnag, mae'r angen bellach i leihau ôl troed amgylcheddol ffermio da byw a chynyddu'r cyflenwad o brotein porthiant yn gyrru ail gyflwyno meillion coch a chodlysiau porthiant eraill, ac mae mwy o ddefnydd o feillion coch wrth ffermio da byw yn dibynnu ar welliant genetig y cnwd hwn .
Mae prosiect parhaus yn IBERS a TGAC yn anelu at ddefnyddio casgliad o linellau naturiol amrywiol o feillion coch ar gyfer bridio mathau newydd elit sydd yn medru gwrthsefyll pori a sathru gan dda byw yn well, ac i ddeall y broses ddofi a arweiniodd at fabwysiadu meillion coch fel cnwd .
Bydd y genom drafft yn cynorthwyo'r rhaglen fridio, drwy gyflymu'r broses o ymgorffori nodweddion buddiol gan banel o blanhigion meillion coch amrywiol a samplwyd o bob cwr o Ewrop i'w defnyddio mewn amaethyddiaeth gynaliadwy.
Dywedodd yr prif awdur Jose de Vega, ymchwilydd yn TGAC,: "Mae cyhoeddi'r genom cyfeirio meillion coch yn garreg filltir bwysig, gan ei fod yn cynrychioli dilyniant genom cyntaf y cnydau porthiant meillion, elfennau allweddol amaethyddiaeth da byw mwy cynaliadwy.
"Bydd argaeledd y genom yn paratoi'r ffordd tuag at ddulliau bridio a gynorthwyir gan genomeg ar gyfer codlysiau porthiant, ac yn darparu llwyfan ar gyfer dealltwriaeth ddyfnach o eneteg dofi cnwd porthiant."
"Mae meillion coch yn ddeniadol oherwydd eu bod yn cynnwys lefelau uchel o brotein, eu hamrywiaeth, a’u gallu i sefydlogi nitrogen atmosfferig, ond mae ehangu eu rôl mewn amaethyddiaeth gynaliadwy yn gofyn am welliannau o ran parhad, y gallu i wrthsefyll clefydau, a gwrthsefyll pori."
IBERS
Cydnabyddir yr Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn rhyngwladol fel canolfan ymchwil ac addysgu sy’n cynnig sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang fel diogelwch bwyd, bioynni a chynaladwyedd, ac effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae gwyddonwyr IBERS yn cynnal ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol mewn bioleg o lefel genynnau a moleciwlau eraill, i effaith newid hinsawdd.
Mae IBERS yn derbyn £10.5m o gyllid ymchwil strategol gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) i gefnogi ymchwil tymor hir sy’n cael ei arwain gan genhadaeth, ac mae’n aelod o’r Athrofeydd Biowyddoniaeth Cenedlaethol. Mae IBERS hefyd yn derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, DEFRA a’r Undeb Ewropeaidd.
Am TGAC
Mae Canolfan Dadansoddi Genom TGAC ( The Genome Analysis Centre) yn sefydliad ymchwil o'r radd flaenaf sy'n canolbwyntio ar ddatblygu genomeg a bioleg gyfrifiannol. Lleolir TGAC o fewn Parc Ymchwil Norwich ac mae'n derbyn nawdd strategol oddi wrth y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) - £ 7.4 miliwn yn 2013/14 - yn ogystal â chefnogaeth gan arianwyr ymchwil eraill. Mae TGAC yn un o wyth o sefydliadau sy'n cael cyllid strategol gan y BBSRC. Mae TGAC yn gweithredu Gallu Cenedlaethol i hyrwyddo’r defnydd o genomeg a biowybodeg i hybu ymchwil biowyddoniaeth ac arloesi.
Mae TGAC yn cynnig cyfleuster trefnu DNA o’r radd flaenaf, sydyn unigryw yn ei weithrediad o dechnolegau cyflenwol lniferus ar gyfer cynhyrchu data. Mae'r Sefydliad yn ganolbwynt yn y DG ar gyfer Biowybodeg arloesol drwy ymchwil, dadansoddi a dehongli setiau data lluosog, cymhleth. Mae'n gartref i un o'r cyfleusterau caledwedd cyfrifiadurol mwyaf pwrpasol ar gyfer ymchwil gwyddorau bywyd yn Ewrop. Mae hefyd yn cymryd rhan weithredol mewn datblygu llwyfannau newydd i ddarparu mynediad i offer cyfrifiadol a gallu prosesu ar gyfer defnyddwyr academaidd a diwydiannol niferus a hybu'r defnydd o Biowyddorau cyfrifiadurol. Yn ogystal, mae'r Sefydliad yn cynnig rhaglen Hyfforddi drwy gyrsiau a gweithdai, a rhaglen allanol sydd yn targedu ysgolion, athrawon a'r cyhoedd yn gyffredinol drwy weithgareddau deialog a chyfathrebu gwyddoniaeth.www.tgac.ac.uk
Am y BBSRC (Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol)
Mae’r BBSRC yn buddsoddi mewn ymchwil biowyddoniaeth safon fyd-eang a hyfforddiant ar ran cyhoedd y DG. Ein nod yw ymestyn gwybodaeth wyddonol, i hybu twf economaidd, a chreu cyfoeth a swyddi ac i wella ansawdd bywyd yn y DG a thu hwnt.
Wedi'i ariannu gan y Llywodraeth, a chyda chyllideb flynyddol o tua £ 467m (2012-2013), rydym yn cefnogi ymchwil a hyfforddiant mewn prifysgolion a sefydliadau a ariennir yn strategol. Mae ymchwil y BBSRC a'r bobl yr ydym yn eu hariannu'n yn helpu cymdeithas i gwrdd â heriau mawr, yn cynnwys diogelwch bwyd, ynni gwyrdd a bywydau hirach ac iachach. Mae ein buddsoddiadau yn sail i sectorau economaidd pwysig yn y DG, fel ffermio, bwyd, biotechnoleg ddiwydiannol a fferyllol.
I gael rhagor o wybodaeth am BBSRC, ein gwyddoniaeth a'n heffaith: www.bbsrc.ac.uk
I gael rhagor o wybodaeth am sefydliadau a ariennir yn strategol gan y BBSRC: www.bbsrc.ac.uk/institutes
AU37815