Cynhyrchwyr Organig Cymru ar drywydd newydd
27 Ebrill 2015
Mae ffermwyr organig Cymru’n dilyn llwybr newydd ar ôl cyfnod o newid. Mae Arolwg Cynhyrchwyr Organig 2014 Canolfan Organig Cymru wedi dangos bod y gostyngiad yn arwynebedd y tir a reolir yn organig wrth i ffermwyr ddod i ddiwedd eu cytundebau pum mlynedd wedi dod i ben a bod gan Gymru bellach gnewyllyn o tua 500 o ffermwyr a thyfwyr ymrwymedig.
Cynhaliwyd yr arolwg ar y ffôn yn ystod mis Tachwedd 2014 a chafwyd cefnogaeth dda iddo gan gynhyrchwyr gyda chyfradd ymateb o 73%. Mae gwerthiant organig yn adlewyrchu’r newid yn nhroad y rhod i’r gwahanol sectorau. Cododd gwerthiant cynnyrch llaeth organig 24% i 56 miliwn litr yn 2014 gyda nifer y gwartheg eidion a werthwyd fel rhai organig yn codi 19% i 7,600. Cyflawnwyd y codiadau hyn er gwaethaf cwymp o 13% yn arwynebedd y tir sy’n cael ei ffermio’n organig. Aeth y sector defaid yn groes i’r duedd gyda gwerthiant i lawr 18%, er bod premiwm yn cael ei dalu am ŵyn gorffenedig yn ystod y rhan fwyaf o’r flwyddyn.
Mae data o ffynonellau eraill yn ategu’r canlyniadau gan ddangos bod marchnad y DU ar gyfer bwyd organig yn tyfu unwaith eto, er gwaetha cwymp cyffredinol yng ngwerthiant bwyd drwy fanwerthwyr cadwyn. Mae arolwg Canolfan Organig Cymru’n dangos bod digon o botensial i gynyddu’r gwerth y mae’r premiwm organig eisoes yn ei ychwanegu at allbwn amaethyddol Cymru. Mae amcangyfrifon seiliedig ar yr ymateb yn dangos bod cyfran y da byw a werthwyd i’r farchnad gonfensiynol yn debyg i’r flwyddyn flaenorol, 2013, gyda 41% o ŵyn gorffenedig organig cyflawn (46,000 o ŵyn), 27% o wartheg stôr (1300 o anifeiliaid) a 74% o ŵyn stôr (20,000) yn cael eu colli o’r farchnad organig.
Wrth i 2015 fynd yn ei flaen, dylai’r sail gynhyrchu sefydlog a’r farchnad gynyddol wireddu’r potensial am godiad yn y premiymau ar gyfer cig eidion ac oen, yn enwedig yn ystod pantiau tymhorol yn y cyflenwad megis diwedd y gwanwyn yn y sector cig oen. Byddai hyn yn esbonio pam mae cynhyrchwyr yn y rhan fwyaf o sectorau’n optimistaidd am y dyfodol, er bod ffermwyr cig eidion yn llai felly oherwydd y pwysau ar brisiau eidion yn 2014.
Yn ôl Dafydd Owen, Rheolwr Canolfan Organig Cymru, “Mae’r data yn yr arolwg yma’n cadarnhau bod gan Gymru erbyn hyn sail cynhyrchu organig sefydlog sydd wedi’i halinio’n agosach i alw’r farchnad. Dyma barhad o’r adlinio a welwyd yn 2013 ac mae’n cael ei adlewyrchu yn y premiwm a gyflawnwyd gan lawer o gynhyrchwyr organig. Bydd ailgydbwyso’r cyflenwad fel hyn mewn marchnad organig sy’n tyfu’n creu cyfleoedd i’r ffermwyr sydd wedi ymrwymo i gynhyrchu’n organig am y pum mlynedd nesaf gan wella cydnerthedd eu busnesau.”