Doctor Who yn anghywir

Myfyriwr Blwyddyn Gyntaf IBERS mewn Bioleg Planhigion, Mark Morgan, gyda dail -  ‘dyw’r rhai sy’n fwy symudol ddim yn cael eu bwyta'.

Myfyriwr Blwyddyn Gyntaf IBERS mewn Bioleg Planhigion, Mark Morgan, gyda dail - ‘dyw’r rhai sy’n fwy symudol ddim yn cael eu bwyta'.

29 Hydref 2014

"Nid oes gan goed unrhyw rannau symudol ac nid ydynt yn cyfathrebu" – ond myfyrwyr IBERS yn anghytuno gyda Dr Who

Ym mhennod nos Sadwrn o Dr Who'In The Forest of The Night' gweldwyd pobl y byd yn deffro un bore i ddarganfod bod y blaned gyfan wedi ei gorchuddio mewn coed.

Wrth geisio gwneud synnwyr o beth roedd hyn yn ei olygu ar gyfer dyfodol y ddynoliaeth fe wnaeth y Doctor y datganiad canlynol, "Yn anffodus, nid oes gan goed unrhyw rannau symudol ac nid ydynt yn cyfathrebu."

Ond mae grŵp o fyfyrwyr bioleg planhigion blwyddyn gyntaf o Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth wedi profi datganiad y Doctor yn anghywir drwy ddarganfod fod gan goed y gallu i ysgwyd pryfed oddi ar eu dail drwy symudiadau yn y gwynt er mwyn osgoi difrod pryfed.

Edrychodd y myfyrwyr ar amrywiaeth o goed ar Gampws Penglais y Brifysgol a gwelwyd bod dail gyda choesau hirach yn dioddef llai o ddifrod pryfed na dail gyda choesau byrion.

Meddai Dr John Warren, darlithydd a Chyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu IBERS; “Yn y dyfodol, rydym yn awgrymu bod Dr Who yn edrych mor agos ar goed ac y mae myfyrwyr IBERS yn ei wneud ar Dr Who!”

Mae Dr Warren ar fin cyhoeddi papur ar y pwnc ac mae'n gobeithio cynnwys canfyddiadau newydd y myfyriwr ynddo.